'Rwy'n chwennych gweld ei degwch Ef,
Sy_uwch popeth is y rhod,
Na welodd lluoedd
nefoedd fawr
Gyffelyb iddo 'rioed.
Efe yw ffynnon fawr pob dawn,
Gwraidd holl ogoniant dyn;
A rhyw drysorau fel y mor
A guddiwyd ynddo'i Hun.
Mae 'nhymuniadau'n hedeg fry,
Uwch crëadigol fyd,
Heb weled dim o'r ddaear hon
Yn werth i gael fy mryd.
'Rwyf yn hiraethu am gael prawf
O'r maith bleserau sy
Yn cael eu hyfed, heb ddim trai,
Gan yr angylion fry.
Fe'm ganwyd i lawenydd uwch
Nag sy 'mhleserau'r llawr,
I gariad dwyfol, gwleddoedd pur
Angylion nefoedd fawr.
O! pam na chaf fi ddechrau'n awr
Fy nefoedd yn y byd,
A threulio 'mywyd mewn mwynhad
O'th gariad gwerthfawr drud?
Na welodd :: Nas gwelodd A guddiwyd ynddo'i hun :: Sydd ynddo Ef ei un 'Rwyf yn hiraethu :: 'R wyf yn brefu nefoedd fawr :: nefoedd bur na chaf :: nas caf
Tonau [MC 8686]:
gwelir: |
I am yearning to see his comeliness,
Which is above everything under the sky,
The hosts of the great
heavens have not seen
His like ever.
He is the great fount of every gift,
The root of all man's glory;
And the kind of treasures like the sea
Which are hidden in Himself.
My desires are flying up,
Above the created world,
Without seeing anything of this earth
As worth getting my attention.
I am longing to get an experience
Of the vast pleasures which
Get drunk, without any ebbing,
By the angels above.
I was born to joys higher
Than are the pleasures of the earth,
To divine love, pure feasts
Of angels of great heavens.
Oh why may I not begin now
My heavens in the world,
And spend my life in enjoyment
Of thy valuable costly love?
:: Which are hidden in Himself :: Which are in Him himself I am longing :: I am bleating great heavens :: pure heaven :: tr. 2010 Richard B Gillion |
|