Os gofyn rhywun beth yw Duw,
Atebwn ni mai cariad yw:
Fe fflamiodd cariad Tri yn Un
Yn rhyfedd at annheilwng ddyn.
Nid dim rhinweddau ynom ni,
Na dim a wnaed ar Galfari
Fu'n achos iddo garu dyn -
Fe'i carodd er ei fwyn ei hun.
Fe'n carodd, ac fe'n car o hyd,
Ym mhob rhyw drallod yn y byd;
A'r rhai a garodd Ef un waith,
Fe'u car i dragwyddoldeb maith!
- - - - -
Os gofyn rhyw-un beth yw Duw,
Mae'r gair yn d'weud mae cariad yw;
Fe fflamiodd cariad Tri yn Un,
Yn rhyfedd at annheilwng ddyn.
Fe ddrylliodd Duw ar Galfari,
Ei Fab o gariad attom ni;
'Fe garodd ef rhyw filoedd maith,
O bob cenhedlaeth, llwyth ac iaith.
Os carodd Duw ni rai diras,
A ni'n elynion cyndyn cas;
A dry fe'n elyn in a'n llad,
'Nol ein santeiddio ni mewn gradd?
Na wna, na wna, fe'n cār o hyd,
Ym mhob rhyw drallod yn y byd;
A'r rhai a garodd ef un waith,
Fe'i cār i drag'wyddoldeb maith.
Azariah Shadrach 1774-1844
Tonau [MH 8888]: |
If someone asks what is God,
We will answer that he is love:
The love of the Three in One flamed
As a wonder towards unworthy man.
There is no merit in us,
Other than what was done on Calvary
Which was a cause to him to love man -
He loved him for his own sake.
He loved us and he loves us still,
In every kind of adversity in the world;
And those whom he loved once,
He will love for a vast eternity!
- - - - -
If anyone asks what is God,
The word is saying that he is love;
The love of the Three in One flamed,
As a wonder towards unworthy man.
God smashed on Calvary,
His Son from love towards us;
He love some vast thousands,
From every nation, tribe and language.
If God loved us ungracious ones,
And we stubborn, detestable enemies;
Will he turn into our enemy and kill us,
After sanctifying us in a degree?
He will not, he will not, he loves still,
In every kind of trouble in the world;
And those he loved once,
He will love for a vast eternity.
tr. 2009,16 Richard B Gillion
|
|