Ein Tad o'r nef, ein Crëwr ni,
Pob enaid byw rhoed fawl i ti;
Anfeidrol yw dy gariad rhad,
Ac yn dragywydd ei barhad.
Sancteiddied pawb dy enw mawr,
Drwy'r bydoedd oll,
bob mynyd awr;
Dy 'wyllys doeth, O gwneler ef
Yn y byd hwn, fel yn y nef.
Dy deyrnas nefol deued hon,
Gan lwyr feddiannu'r ddaear gron;
Boed iddi gadarnhau'n ddilyth
Lywodraeth cariad yn ein plith.
Ti biai'r deyrnas, ti'n ddilyth,
Y gallu a'r gogoniant byth;
O ddrygau'r byd
i'th deyrnas draw
Dwg ni'n ddiangol ddydd a ddaw.
Hymnau (Wesleyaidd) 1876
Tôn [MH 8888]: |
Our Father from heaven, our Creator,
Let every living soul render praise to thee;
Immeasurable is thy free love,
And eternal its lasting.
Let everyone hallow thy great name,
Through all the worlds,
every minute of an hour;
Thy wise will, O be it done
In this world, as in heaven.
Thy heavenly kingdom let this come,
By completely possessing the round earth;
Let it strengthen unfailingly
The government of love amongst us.
Thine is the kingdom, thine unfailingly,
The might and the glory forever;
From the evil of the world
to thy kingdom yonder
Bear us safely on the day to come.
tr. 2009 Richard B Gillion
|
|