Ei harddwch a'i degwch,
mewn cariad a hedd,
Anfeidrol ogoniant
serchawgrwydd ei wedd;
A'i ras at bechadur,
pentewyn y tân,
Y bywyd fy ysbryd,
a thestun fy nghân.
O gariad, rhad gariad,
fy Mhriod a'm rhan!
Y maen oedd yn cynnal,
ei enaid i'r làn;
Ar hwn fu'n sefyll
yn serchog ei wawr:
Maen arall drowd arno,
a'i gwasgodd i lawr.
Ac yno fe'i drylliwyd
rhwng cariad a llid:
Pwy draetha ddyoddefaint
Iachawdwr y byd?
Yd bara faluriwyd
dan olwyn y fàn:
Fe'i sigwyd, fe'i gwasgwyd,
nes rhwygwyd y llen.
Yna gwaeddodd cyfiawnder,
'nawr gollwng e'n rhydd;
A phob Priodledd
gytunai'r un dydd:
Fe groeswyd y ddyled
meddannwyd y tir;
Daw'r holl brynedigion
yn rhyddion yn wir.
Cyfaill
Trysorfa Ysbrydol, Ebrill 1799. [Mesur: 11.11.11.11] |
His beauty and fairness,
in love and peace,
Immeasurable glory of the
amiability of his countenance;
And his grace to a sinner,
a brand of the fire,
The life of my spirit,
a theme of my song.
O love, free love!,
my Spouse and my portion!
The stone which is holding,
his soul up;
On this was established
affectionately his dawn:
Another stone was turned upon it,
and pressed it down.
And then it was smashed
between love and wrath:
Who will expound the suffering
of the Saviour of the world?
The grain of bread was ground
under the wheel of the place:
It was crushed, it was pressed,
until the curtain was torn.
Then righteousness shouted,
now set him free!
And every Attribute
would agree on the same day:
The debt was crossed
the territory was possessed;
All the redeemed will come
free truly.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|