Dyma'r tlawd a'r llesga 'rioed,
Fethodd ddilyn ôl dy droed;
Llwybrau pur yw'th lwybrau di,
Oll yn sanctaidd, oll yn gu,
Rhaid fy ngolchi'n hyfryd wyn;
Cyn y teithiwy'r llwybrau hyn.
Miloedd o feddyliau gau
Yn fy nghalon sy'n parhau,
Nes wy'n treulio'm dyddiau gyd
Yn gystuddiol yn y byd;
Neb ond anfeidroldeb yw,
Ddeil fy enaid gwan yn fyw.
Danfon imi 'r olew gwir,
Ysbryd y Llawenydd pur;
Dangos dy fod im' yn Dduw,
Gwella 'r esgyrn wneist yn friw;
Prawf o'th hedd rho im' ar frys,
Ffrwythau'th waed, a ffrwythau chwŷs.
- - - - -
Dyma'r tlawd a'r llesga' 'rioed,
Fethodd ddilyn ôl dy droed;
Llwybrau pur yw'th lwybrau di,
Oll yn sanctaidd, oll yn gu.
Rhaid fy ngolchi'n hyfryd wyn;
Cyn y teithiwy'r llwybrau hyn.
Golch f'euogrwydd yn dy waed,
Cudd bob bai, rho im iachâd.
Danfon imi 'r olew gwir,
Ysbryd y Llawenydd pur;
O cyhoeddia'r tawel hedd,
Iesu, 'r ochor yma i'r bedd.
William Williams 1717-91
Tonau [77 77 77]:
Tonau [7777]: gwelir: Arglwydd ffoed cymmylau mwy |
Here is a poor one and the weakest ever,
Who failed to follow thy footprint;
Pure paths are thy paths,
All holy, all dear,
I need to wash beautifully white;
Before I travel these paths.
Thousands of vain thoughts
In my heart which persist,
Until I spend all my days
Afflicted in the world;
There is only infinity,
Which is keeping my weak soul alive.
Send me the true oil,
The pure Spirit of Joy;
Show thou art God to me,
Heal the bones thou didst injure;
A taste of thy peace give me quickly,
Fruits of thy blood, and fruits of sweat.
- - - - -
Here is a poor one and the weakest ever,
Who failed to follow thy footprint;
Pure paths are thy paths,
All holy, all dear.
I need to wash beautifully white;
Before I travel these paths.
Wash my guilt in thy blood,
Hide every fault, give me salvation.
Deliver to me the true oil,
Spirit of pure joy;
O announce the quiet peace,
Jesus, on this side of the grave.
tr. 2009,10 Richard B Gillion
|
|