Cymer adain fwyn efengyl

("Rhaid iddo deyrnasu")
Cymer adain, fwyn efengyl,
  Hed dros &373;yneb daear lawr;
Seinia d'udgorn fel y clywo
  Pawb o deulu'r golled fawr:
Dwed am rinwedd Balm Gilead,
  A'r Ffisigwr yno sydd;
Golch yn wyn y rhai aflanaf,
  Dwg y caethion oll yn rhydd.

Mae banerau'r nef yn chwarae,
  Hedeg mae'r efengyl lon;
Rhaid i'r Iesu mwyn deyrnasu
  Dros derfynau'r ddaear gron:
Gwael yw gweled llwythau Israel,
  Dim ond hynny wrth ei draed:
Rhaid cael tyrfa ddirifedi
  I glodfori'r dwyfol waed.
1: D Silvan Evans (Daniel Las) 1818-1903
2: Thomas Phillips 1772-1842

Tonau [8787D]:
Moreia (alaw Gymreig)
Hyfrydol (Rowland Huw Prichard 1811-87)
Nercwys (Caniadau y Cyssegr a'r Teulu 1879)

gwelir: Mae banerau'r nef yn chwareu

("He must reign")
Take wing, fair gospel,
  Fly across the face of the earth below;
Sound thy trumpet so that hear
  All of the family of the great loss:
Tell of the virtue of the Balm of Gilead,
  And the Physician who is there;
Wash white those most unclean,
  Bring the captives all free.

The banners of heaven are fluttering,
  Flying is the cheerful gospel;
Jesus must reign
  Across the boundaries of the round earth:
Bad it is to see the tribes of Israel,
  Only these at his feet:
An innumerable throng must
  Extol the divine blood.
tr. 2014 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~