Cyfarwydda f'enaid Arglwydd
Cyfarwydda'm henaid Arglwydd

1,2,3,(8);  1,3,(4);  1,3,(5),8;  1,3,(8),6,7.
(Cyfarwyddyd yn yr Anialwch)
Cyfarwydda f'enaid, Arglwydd,
  Pan fwy'n teithio 'mlaen ar hyd
Llwybrau culion dyrys anodd
  Sydd i'w cerdded yn y byd:
Cnawd ac ysbryd sy'n rhyfela,
  Weithiau cariad, weithiau cas,
Ton ar don sydd yn gorchuddio
  Egwyddorion nefol ras.

Weithiau torf yr ochr aswy,
  Weithiau torf yr ochr dde;
Ffaelu deall p'un sy'n canlyn
  Hyfryd lwybrau Brenin ne';
Drysu mewn rhyw fyfyrdodau,
  Methu cael y gwir yn lân,
Ymbalfalu wrthyf f'hunan
  Ac heb symud cam ymlaen.

Cul yw'r llwybyr imi gerdded,
  Is fy llaw mae dyfnder mawr,
Ofn sydd arnaf yn fy nghalon
  Rhag i'm troed fyth lithro i lawr:
Yn dy law y gallaf sefyll,
  Yn dy law y dof i'r lan,
Yn dy law byth ni ddiffygiaf,
  Er nad ydwyf fi ond gwan.

Wrth dy orsedd 'rwyf yn cwympo,
  Annheilyngaf ddyn erioed,
Mewn anwiredd y'm cenedlwyd,
  Mewn anwiredd mwynaf fod;
Darfu'm nerth, a darfu'm goleu,
  Darfu'm haeddiant yn gytûn,
Mae'm hapuswrydd oll yn gorphwys
  Ar a wisgodd natur dyn.

Nertha f'enaid egwan bellach
  Deithio'n fanwl lwybr cul,
Ac na byddo im gael fy nifa
  Gan bicellau'r
      ddraig a'i hil;
Cadw yn gywir fy ngerddidiad,
  Na ogwyddwyf ar un llaw,
Nac i garu y creadur,
  Na'i ffieiddio trwyddo draw.

Am fy mod i yn y rhyfel,
  Yn y rhyfel nos a dydd,
Dyna p'am yr wy'n hiraethu
  Cymmaint am gael cario'r dydd:
Maith rifedi fy ngelynion,
  Wnaeth i'm ganu'n drist fel hyn,
A chael fy nghwympo hyd y cregydd
  Wnaeth i'm frefu am Sion fryn.

Nid oes enw 'mhlith angelion,
  Y'mhlith dynion, ac ni chaed,
All fod i mi'n ddinas noddfa,
  Yn unig ond Iachawdwr rhad,
Mae'r afonydd rwy'n myn'd trwyddynt,
  A'r tonnau mawrion mor ddirif,
Nad oes dim ond nerth trad'wyddol,
  Ddeil fy enaid yn y llif.

Dysg im gerdded trwy'r afonydd,
  Na'm dychryner gan y llif,
Na bwy'n ildio gyda'r tonnau,
  Temtasiynau fwy na rhif:
Cadw 'ngolwg ar y bryniau
  Uchel heirdd tu draw i'r dŵr;
Cadw 'ngafael yn yr afon
  Ar yr Iesu'r blaenaf Ŵr.
Cyfarwydda f'enaid :: Cyfarwydda'm henaid
Pan fwy'n :: Pan bwy'n
teithio 'mlaen ar hyd :: teithio ymlaen o hyd
dyrys anodd :: dyrus anhawdd
troed fyth lithro :: traed i lithro
A chael fy nghwympo :: A fy nghwympo
tonnau mawrion mor ddirif :: tonau mawr mor grŷf

William Williams 1717-91

Tonau:
Cwynfan Prydain (alaw Gymreig)
Deus Omnipotens (Percy J Starnes)
Gwynfa (John Henry Roberts 1848-1924)
Jersey (alaw Gymreig)
Llangan (alaw Gymreig)
Nantlle (Owen William Francis 1879-1936)
Pennant (T Osborne Roberts 1879-1948)
Tanymarian (Edward Stephen 1822-85)

gwelir:
  Cul yw'r llwybr imi gerdded
  Nid oes enw 'mhlith angelion

(Guidance in the Desert)
Guide my soul, Lord,
  When I am travelling all the way along
Narrow, troublesome, difficult paths
  Which it is to walk in the world:
Flesh and spirit are at war,
  Sometimes love, sometimes hatred,
Wave upon wave which cover over
  The principles of heavenly grace.

Sometimes a multitude on the left side,
  Sometimes a multitude on the right side;
To fail to understand which is following
  The pleasant paths of the King of heaven;
To bewilder in some contemplations,
  To miss getting the truth completely,
To grope about myself
  without moving a step forward.

Narrow is the path for me to walk,
  Under my hand is a great depth,
Fear is upon me in my heart
  Lest my foot ever slide down:
In thy hand I shall stand,
  In thy hand I shall reach the shore:
In thy hand I shall never tire
  Although I am only weak.

At thy throne I am falling,
  The most unworthy man ever,
In untruth I was generated,
  In untruth I enjoy being;
My strength fades, and my light fades,
  My virtue fades in agreement,
All my happiness is resting
  On him who wore the nature of man.

Strengthen my weak soul from now on
  Travelling precisely a narrow path,
And may I not get devoured
  By the spikes of the
      dragon and his progeny;
Keep true my walk,
  That I not veer to one hand,
Nor love the creature,
  Nor hate it thoroughly yonder.

Since I am in the battle,
  In the battle night and day,
That is why I am longing
  So much to get to carry the day:
The greatness of the number of my enemies,
  Has made me sing sadly like this,
And being caused to fall along the rocks
  Has made me moan for Zion hill.

There is no name among angels,
  Or among men, to be had,
That can be to me as a city of refuge,
  Except alone a gracious Saviour,
There is the river I am going through,
  And the large waves so innumerable,
There is nothing but eternal strength,
  That will hold my soul in the flood.

Teach me to walk through the rivers,
  Not to be appalled by the flood,
Nor shall I yield to the waves,
  Temptations more than number:
To keep my sight on the hills
  Highly beautiful beyond the water;
To keep my hold in the river
  On Jesus the foremost man.
::
::
::
::
foot ever slide :: feet slide
And being caused to fall :: And me to fall
large waves so innumerable :: large waves so strong

tr. 2009,16 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~