Cwymp Eden a deddf Sina'

(Crist yw diwedd y Ddeddf, er Cyfiawnder i bob
un a'r sydd yn credu, Rhuf. x.4. 2 Cor v.21.)
Cwymp Eden a deddf Sina',
    Un prydnawn, un prydnawn,
Gyfarfu ar Galfaria,
    Un prydnawn;
  Y Gŵr a'i enw Iesu,
  Yn gyflawn dalodd iddi,
  Mae'r ddeddf yn tawel dewi,
    Un prydnawn, un prydnawn,
  A'r llyfrau wedi' croesi,
    Un prydnawn.
 
Ar gopa Craig Golgotha,
    Un prydnawn, un prydnawn,
Bu'r Meichiau yn y ddalfa,
    Un prydnawn;
  Yn talu dyled dynion,
  Trwy golli gwaed ei galon,
  Cyfiawnder ga'dd y goron,
    Un prydnawn, un prydnawn,
  Rhyw filodd aeth yn rhyddion,
    Un prydnawn.
Swp o Ffigys 1825

Tôn [73373.7773373]: Calvary New (<1825)

(Christ is the end of the Law, for Righteousness
to every one who believes, Rom. 10:4; 2 Cor 5:21.)
The fall of Eden and the law of Sinai,
    One afternoon, one afternoon,
Met on Calvary,
    One afternoon;
  The Man with his name Jesus,
  Fully paid it,
  The law is quietly silent,
    One afternoon, one afternoon,
  And the books are crossed,
    One afternoon.

On the summit of the Rock of Golgotha,
    One afternoon, one afternoon,
The Surety was in the prison,
    One afternoon;
  Paying the debt of men,
  Through shedding the blood of his heart,
  Righteousness got the crown,
    One afternoon, one afternoon,
  Some thousands went free,
    One afternoon.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~