Coronwch Iesu mawr,
Coronwch Ef!
Chwi holl drigolion llawr,
Coronwch Ef:
Yn Frenin ymhob gwlad
Bod Iesu'r Ceidwad mad,
Mae'n haeddu pob mawrhad -
Coronwch Ef.
Chwi engyl glân y nen,
Coronwch Ef;
Yr Oen fu farw'n Ben,
Coronwch Ef!
Ei gariad sydd erioed,
Mae'n haeddu yr holl glod
Tra fyddo'r nef yn bod -
Coronwch Ef.
Ymunwn oll i gyd,
Coronwch Ef;
Rhown barch
i Brynwr byd,
Coronwch Ef:
Y ddae'r a'r nef yn un,
Dyrchafwn Fab y Dyn,
Pob enaid yn gytûn,
Coronwch Ef!
John Lewis 1853-1948
Tôn [6464.6664]: St Nicholas (alaw Almaenaidd) |
Crown ye great Jesus,
Crown ye Him!
All ye inhabitants of earth below,
Crown ye Him:
That King in every land
Be Jesus the worthy Saviour,
He deserves all majesty -
Crown ye Him.
Ye holy angels of heaven,
Crown ye Him;
The Lamb who died as Head,
Crown ye Him!
His love has been forever,
He is deserving all the praise
While ever heaven shall be -
Crown ye Him.
Let us all join together,
Crown ye Him;
Let us give reverence
to the world's Redeemer,
Crown ye Him:
The earth and heaven as one,
Let us exalt the Son of Man,
Every soul in agreement,
Crown ye Him!
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|