Corona'n hoedfa ar hyn o bryd

1,2;  1,3,4,5.
Corona'n hoedfa ar hyn o bryd
  Â'th hyfryd bresenoldeb;
Rho brofi grym
    dy air a'th hedd,
  A hyfryd wedd dy ŵyneb.

Llefara wrthym air mewn pryd,
  Dod ysbryd in i'th garu;
Datguddia inni'r oedfa hon
  Ogoniant person Iesu.

Gwna'th air fel cleddyf, Arglwydd da,
  O argyhoedda ddynion;
Glyned dy saethau'r oedfa hon
  Yn nghalon dy elynion.

O am y waedd, "Pa beth a wnaf,
  Pa fodd y caf drugaredd!"
Y rhai sy'n llwythog yn y lle,
  O maddeu eu hanwiredd.

Rhyddhawr y caethion, tyr'd ar frys
  O'th euraidd lys nefolaidd,
Rhyddha eneidiau yma'n awr
  Er mwyn dy fawr drugaredd.
1 Dafydd William 1720-94 neu Edmwnd Prys 1544-1623
2 Siôn Singer c.1750-1807
3 <1868
4 <1868
5 R Dafydd ?-1788

Tonau [MS 8787]:
Bronclydwr (David de Lloyd 1885-1948)
Cyffin (<1876)
Dyfrdwy (John Jeffreys 1718-98)
Dymuniad (R H Williams [Corfanydd] 1805-76)
Morgannwg (hen alaw)
Ramah (Joseph D Jones 1827-70)

gwelir:
Amlyga Di O Argwlydd Iôr
O Arglwydd Dduw 'r Hwn biau'r waith
O Arglwydd Dduw y lluoedd mawr

Crown our meeting at this present time
  With thy pleasant presence;
Let us experience the force of
    thy word and thy peace
  And the pleasant sight of thy face.

Speak to us a word in season,
  Come, Spirit, for us to love thee;
Reveal to us during this service
  The glory of the person of Jesus.

Make thy word like a sword, good Lord,
  To convince men;
May thy arrows stick during this service
  In the hearts of thy enemies.

Oh for the shout, "What shall I do,
  How can I obtain mercy!"
Those who are burdened in the place,
  O forgive their falsehood.

Setter free of the captives, come quickly
  From thy golden, heavenly court,
Set free these souls now
  For thy great mercy's sake.
tr. 2008 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~