Clod, clod
I'th enw di, 'r anfeidrol Fod!
Yr hwn breswyli uwch y rhod;
O'th law mae'n dod ein hymborth ni;
Ar dy ddaioni'r ŷm yn byw -
O Arglwydd Dduw, boed mawl i ti.
Gwawr, gwawr
Dy doeth ragluniaeth sydd bob awr
I'n llonni ni, drigolion llawr;
O Arglwydd mawr, a thirion dad,
Y mawl, a'r clod, fo yn ddi-nam,
I'th enw am dy roddion rhad.
William Williams (Gwilym ap Gwilym, Lleyn.) -1901
Tonau [28.88.88] |
Praise, praise
To thy name, the infinite Being!
The one who resides above the sky;
From thy hand comes our food;
On thy goodness we are living -
O Lord God, let praise be to thee.
Brightness, the brightness
Of thy wise providence is every hour
To cheer us, the inhabitants of earth;
O great Lord, and gentle father,
The praise, and the fame, be unfailing,
To thy name for thy free gifts.
tr. 2010 Richard B Gillion
|
|