Ciliodd anghrediniaeth Thomas
Pryd y cafodd brawf, heb rith,
Fod yr Iesu croeshoeliedig
Yn gorfforol yn eu plith;
"Ôl yr hoelion"
Yrrodd anghrediniaeth draw.
Anghrediniaeth yn gredadun
Drodd, a'i ffydd
yn fythol fyw;
Torrodd allan mewn brwdfrydedd: -
"Wele f'Arglwydd i a'm Duw";
"Ôl yr hoelion"
Rhoddodd iddo nerth y nef.
Os yn weiniaid, fel Sant Thomas,
Crist presennol a fwynhawn
Yn ei Eglwys i'n cyfnerthu -
Heddiw'i bresenoldeb gawn;
"Ôl yr hoelion"
Ddyco i'n calonnau ffydd.
Robert Arthur Williams (Berw) 1854-1926
Tôn [878747]: Catherine (David Roberts 1820-72) |
Thomas's unbelief retreated
When he got proof, without mistake,
That the crucified Jesus was
Bodily amongst them;
"The mark of the nails"
Drove unbelief away.
Unbelief in a believer
Turned, and his faith
became forever living;
He broke out with enthusiasm: -
"Behold my Lord and my God";
"The mark of the nails"
Gave him the strength of heaven.
If as weak ones, like Saint Thomas,
The present Christ we enjoy
In his Church to strengthen us -
Today his presence we get;
May "The mark of the nails"
Bring faith to our hearts.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|