Anturiaf Arglwydd yr awr hon

1,2,(3),4.
(Gweddi a Mawl)
Anturiaf, Arglwydd, yr awr hon,
Yn llwch a lludw ger dy fron;
  O flaen dy fainc a'th orsedd Di
  Gweddi a mawl sy'n gweddu i mi.

Tŵr yn y nos Ti imi sydd,
Fy nghraig a'm cysgod yn y dydd
  I'm cynnal: am dy ofal Di
  Gweddi a mawl sy'n gweddu i mi.

Tylawd a noeth, gresynus wyf,
Gwan ac anghenus dan fy nghlwyf;
  Mae ffynnon bywyd gyda Thi:
  Gweddi a mawl sy'n gweddu i mi.

Mae yna dorf luosog lân,
Yn bur eu cerdd, yn bêr eu cân;
  Eu mawl yn unig sydd i Ti:
  Gweddi a mawl sy'n gweddu i mi.
Robert Davies (Bardd Nantglyn) 1769-1835

Tonau:
Boston (Lowell Mason 1792-1872)
Melcombe (Samuel Webbe 1740-1816)
Lledrod / Llangollen (alaw Gymreig)
St Cross (J B Dykes 1823-76)
Tiberias (<1876)
Van Ganol (D Jenkins 1848-1915)
Winchester New / Crasselius (Musikalisch Hand-Buch)
Windham (Daniel Read 1757-1836)
Yr Hen Ganfed (Sallwyr Genefa)

(Prayer and Praise)
I will venture, Lord, this hour,
In dust and ash before thy breast;
  I front of thy bench and thy throne
  It is prayer and praise which befit me.

A tower in the night Thou art to me,
My rock which shades me in the day
  To support me: for thy care
  It is prayer and praise which befit me.

Poor and naked, wretched I am,
Weak and needy under my wound;
  There is a well of life with Thee:
  It is prayer and praise which befit me.

There is there a numerous, clean multitude,
Pure their music, sweet their song;
  Their praise is only unto Thee:
  It is prayer and praise which befit me.
tr. 2008 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~