Yr Iesu yw fy Nuw,
Fy noddfa gadarn gref;
Ni fedd fy enaid gwan
Ddim arall dan y nef;
Mae Ef ei hun, a'i angeu drud,
Yn uwch na'r nef, yn fwy na'r byd.
O! ffynon fawr ei rhin,
Yn llawn o win a llaeth!
Sydd yn ei haeddiant Ef,
O'r nefoedd tarddu wnaeth;
Dewch, bawb ynghyd,
i wel'd y fraint
A ga'dd y lleiaf un o'r saint.
Mae'm dymuniadau i gyd
Yn cael boddlonrwydd llawn,
A'm holl serchiadau 'nghyd,
Hyfrydwch nefol ddawn,
Pan fyddwy'n gwel'd, wrth oleu'r wawr
Mai eiddo im' yw Iesu mawr.
William Williams 1717-91
Tôn [666688]: Alun (J A Lloyd 1815-74) |
Jesus is my God,
My firm, strong refuge;
My weak souls possesses
No other under heaven;
He himself, with his costly death, is
Higher than heaven, greater than the world.
O fount of great merit!
Full of wine and milk!
Which is in His virtue,
From heaven issue it did;
Come, everyone together,
to see the privilege
The least one of his saints got.
All my desires are
Getting full satisfaction,
And all my affections altogether,
The loveliness of a heavenly gift,
When I am seeing, by the light of dawn,
That belonging to me is great Jesus.
tr. 2017 Richard B Gillion
|
|