|
(Fy ynddiffyn sydd o Dduw)
Ynot ti y mae f'ymddiried,
Arglwydd, gwared fi, o'th ras,
Rhag gelynion blin fy enaid,
Satan, byd, a phechod cas:
Ti yw'm hunig Ymddiffynwr
Wrth ymdeithio'r dyrus fyd;
Ti, Iachawdwr y rhai uniawn,
Bydd i mi yn noddfa glyd.
Chwiliwr y calonnau ydwyt,
A'r arennau bob yr un;
Gosod ddiwedd ar anwiredd,
A chyf'rwydda'r cyfiawn ddyn:
Mwy yn ol dy
fawr gyfiawnder
Y'th glodforaf, O fy Nuw;
D'enw sanctaidd a ganmolaf,
Y Goruchaf, tra fwy' byw.
Daniel Rees 1793-1857
[Mesur: 8787D] |
(My defence is from God)
In thee is my trust,
Lord, deliver me, of thy grace,
From the wearying enemies of my soul,
Satan, world, and hated sin:
Thou art my only Defender
While travelling the troublesome world;
Thou, Saviour of the upright,
Be to me a secure refuge!
The searcher of hearts art thou,
And the affections of every one;
Put an end to falsehood,
And direct every righteous man:
Henceforth according to thy
great righteousness
I will praise thee, O my God;
Thy holy name I will extol,
The Supreme, as long as I live.
tr. 2014 Richard B Gillion
|
|