Yn rhad y mae'n dyfod
bob bendith a dawn,
Fy mwrdd yn gyfoethog,
a'm cwpan yn llawn,
A gwisg i'm cynnhesu,
fy annedd, a'm tān,
Fy einioes, a'm hiechyd,
o'r Arglwydd yn lān.
Yr awyr sy'n dyfod
o artref fy Ner,
A'r dyfroedd i yfed
yn mhell uwch y ser,
Y tān o'r wybrenau,
y moroedd, a'r tir,
Sy'n d'od o rad gariad
fy Arglwydd yn wir.
Ond mwy na'r bendithion
tymmhorol ger llaw
Yw'r rhai sydd yn perthyn
i'r amser a ddaw,
Yn rhad a ddechreuwyd
cyn amser erioed,
A bery'n rhad etto
tra nefoedd yn bod.
Yn rhad yr etholwyd -
pa'm, Arglwydd, myfi?
Draw yn nhragwyddoldeb,
yn nghynghor y Tri:
Yn rhad y'm dwysbigwyd;
dadguddiwyd yn rhad
Mai dros fy anwiredd
y collwyd y gwaed.
Yn rhad 'rwy'n cael manna;
a'r dyfroedd di-brin
O ffynnon y bywyd,
yn rhad cael hyn;
Yn rhad y caf gerdded
y siwrnai sydd faith;
Yn rhad y caf ganu
ar ddiwedd fy nhaith.
William Williams 1717-91
Tonau [11.11.11.11]: |
Freely comes
every blessing and gift,
My table rich,
and my cup full,
And clothing to warm me,
my dwelling and my fire,
My lifespan, and my health,
from the Lord completely.
The air which comes
from my Master's home,
And the waters to drink
far above the stars,
The fire from the skies,
the sea, and the land,
Which come from the gracious love
of my Lord truly.
But greater than the seasonal
blessings at hand
Are those that belong
to the time to come,
Freely they were begun
before time ever was,
And shall endure still
while ever the heavens are.
Freely was chosen -
why, Lord, I?
Yonder in eternity,
in the counsel of the Three:
Freely was I convicted;
it was revealed freely
That for my untruthfulness
the blood was shed.
Freely I am getting manna;
and the waters unstintingly
From the well of life,
getting these;
Freely I shall get to walk
the journey that is vast;
Freely I shall get to sing
at the end of my journey.
tr. 2018 Richard B Gillion |
|