Yn ol i'r doeth anfeidrol Ior
dwyfol wneuthur dyn
Fe gwympodd Adda'n gynar,
o'i hawddgar le ei hun;
Ac aeth o ran ei haeddiant,
a'i natur wan ei rhyw,
Yn wrthddrych i ddigofaint,
a melldith cyfraith Duw.
Ond Duw o'i ras a'i gariad
at wael golledig ddyn,
Yn aberth dros ei bechod
fe roes ei Fab ei hun;
Y cariad hwn sy'n llonaid
y Drindod ddiwahân,
Sy'n llifo'n ffordd sancteiddrwydd
i lenwi'r Eglwys lân.
Er fod yr Hollalluog
yn ddoeth ddrugarog Dduw,
Yn gyfiawn ac yn sanctaidd
Greawdwr dynolryw,
Ni rwymodd ei drugaredd
mo hono i achub un,
Ond ei ewyllys rasol
a'i gariad rhad at ddyn.
Am hyn, ei saint, rhyfeddwch,
mawrygwch enw'r Oen,
O'i wir ewyllys drosach fu'n
dyoddef marwol boen;
Eich gwaith a fydd rhyfeddu,
a chanu tra bo chwyth,
Ei garu a'i foliannu,
a'i barchu'n anwyl byth.
Dafydd Owen (Dewi Wyn o Eifion) 1784-1841Blodau Arfon - Attodiad 1869 [Mesur: 7676D] |
After the wise, infinite, divine
Lord made man
Adda soon fell,
from his own beautiful place;
And became by his own dessert,
and his weak kind of nature,
And object of wrath, and the
righteous condemnation of God.
But God, from his grace and love
towards base, lost man,
As a sacrifice for his sin
he gave his own Son;
This love which is the fullness
of the undivided Trinity,
Which flows as a way of holiness
to fill the pure Church.
Although the Almighty
is a wise, merciful God,
A righteous and holy
Creator of humankind,
His mercy did not bind him
to save anyone,
But his gracious will
and his free love towards man.
Therefore, ye his saints, wonder,
magnify the name of the Lamb,
Out of his true will for you he
suffered mortal pain;
Your work shall be to wonder,
and sing while there be breath,
To love him and to extol him,
and to revere him belovedly forever.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|