Ymlaen ni awn yn fyddin gref,
Ymlaen i ymladd drosto Ef,
Mae'r Gwr fu farw ar y groes,
Y Gwr ddyoddefodd
angeu loes,
Yn haeddu'n llawn bob awr o'n hoes
I ymladd mwy.
Ymladdwn, gorchfygwn,
y gelyn,
Ymladdwn yn
achos y Nef,
Anrhydedd yw dilyn y Brenin,
Ac ymladd mewn byddin mor gref.
Ymlaen yr awn yn erbyn byd,
A'i hudoliaethau gwag i gyd,
Ein holl elynion, yn eu gwaed,
A fynnwn fathru dan ein traed;
A gwnawn yr oll trwy'r
nerth a gaed
O Galfari.
Ymlaen yr awn i'r nefoedd lân;
Ymlaen, er gwaethaf dŵr a thân:
Mae'r llawryf gwyrdd yng Nghanaan wlad,
A'r delyn aur
yn Nhŷ ein Tad;
Ac yno ni ddaw unrhyw frad
I'n blino ni.
Caniedydd yr Ysgol Sul 1899
Tôn [88.88.84+9898]: Ymlaen Ni Awn |
Forward we go in the strong army,
Forward to fight for Him,
The Man who died on the cross,
The Man who suffered
the throes of death, is
Deserving fully every hour of our life
That we fight evermore.
Let us fight, let us overcome,
the enemy,
Let us fight in the
cause of the Master,
An honour it is to follow the King,
And fight in an army so strong.
Forward we go against a world,
And all its empty enchantments,
All our enemies, in their blood,
We shall trample under our feet;
And let us do it all through the
strength that is got
From Calvary.
Forward we go to the holy heavens;
Forward, despite water and fire:
The green laurel is in the land of Canaan,
And the golden harp
in our Father's House;
And there shall come no kind of betrayal
To grieve us.
tr. 2017 Richard B Gillion
|
|