Ymddiried wnawn i'r Iesu mwyn,
Gŵyr am ein gofid oll,
a'n cwyn:
Bu yma Ei hun yn byw;
O blith angylion
teg eu gwawr
Y daeth i barthau isa'r llawr,
Y Gyfaill dynol ryw.
Cawn gydymdeimlad Iesu Grist
O dan wasgfeuon calon drist -
Bu'n wylo'r dagrau'n lli;
Mae Ef yn Brïod ac yn Frawd
I bob amŵamddifad clwyfs tlawd,
Gŵyr am ein cystudd ni.
Am nerth i ddilyn Iesu glân,
Ar ben y daith
cawn chwyddo'r gân
Dragwyddol iddo Ef:
Ei foli am Ei gariad pur,
A'r cymorth gaed dan lawer cur,
Fydd hyfryd waith y nef.
W Evans Jones (Penllyn) 1854–1938
Tôn [886D]: Carlton (C Francis Lloyd 1852-1917) |
Trust let us do in dear Jesus,
Who knows about all our grief,
and our complaint:
He was here himself living;
From the midst of angels
with their fair dawn
He came to the lowest regions of earth,
The friend of human-kind.
We get the sympathy of Jesus Christ
Under the pressures of a sad heart -
He wept the tears as a flood;
He is a Spouse and a Brother
To every destitute, wounded poor one,
He knows about our affliction.
For strength to follow holy Jesus,
At the journey's end
we may swell the eternal
Song unto Him:
To praise him for His pure love,
And the help had under many a blow,
Shall be the delightful work of heaven.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|