Yma fy Arglwdd wrth dy groes

Yma fy Arglwdd wrth dy groes
Y cair fy enaid, ddydd a nôs;
  A than ddiferion pûr dy waed
  Yn disgwyl beunydd am iachâd.

Cynhyrfed uffern fawr a'r byd,
Fy enaid yma a lyn o hyd;
  Bwriadu trengu 'rwyf os rhaid,
  A byw neu farw wrth dy draed.

Llefara'r gair a byddaf byw,
Dan gysgod noddfa glud fy Nuw;
  Tra b'wyf ynghôl fy Arglwydd cu
  Nid ofnaf nerth
      holl uffern ddu.

Diysgog wyf, trwy
    rîn dy waed
'Ngelynion oll caf dan fy nhraed;
  Hosanna, Haleluia i'm Duw!
  Ei garu wnâf tra fyddwyf byw.
William Williams 1717-91
Diferion y Cyssegr 1804

[Mesur: MH 8888]

Here my Lord at thy cross
My soul may get to be, day and night;
  And under the pure drops of thy blood
  Waiting daily for healing.

Let great hell and the world agitate,
My soul shall stick here always;
  Intending to perish I am if necessary,
  And live or die at thy feet.

Speak the word and I shall live,
Under the shadow of my God's secure refuge;
  While I am in my dear Lord's bosom
  I shall not fear the strength
      of all black hell.

Immovable I am, through
    the merit of thy blood
All enemies I shall have under my feet;
  Hosanna, Haleluia to my God!
  Love him I shall while ever I live.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~