Y pren yn Eden, syrthiodd, do,
A'r cangau ynddo hefyd;
Daeth barn marwolaeth
ar bob dyn,
Ni safodd un mewn bywyd.
Yr Adda cyntaf pechu wnaeth,
Tan farn marwolaeth syrthiodd;
Ac ar ei had, O farwol friw!
Digofaint Duw a dynodd.
I ddysgwyl mwyach dim nid oes
Yn nyfnder ffos, ond llygru;
Ar ddynol ryw, O gyflwr caeth!
Marwolaeth sy'n teyrnasu.
Ond megys afon bur heb ail,
Trwy Adda'r ail y rhedodd
Y ddwyfol ras yn gefnllif mawr;
At ddyn ar lawr cyfeiriodd.
Gwirionedd yn ein natur caed,
O'r ddaear gwnaed i darddu;
O syned holl angelion nef,
Ei ddyfol Ef i'n prynu.
Richard Jones ?1771-1833
[Mesur: MS 8787] |
The tree in Eden, it fell, yes it did,
And the branches in it also;
The judgment of mortality came
upon every man,
Not one stood in life.
The first Adam committed sin,
Under the judgment of mortality he fell;
And upon his seed, O mortal bruise!
The wrath of God he brought.
To expect any more there is nothing
In the depth of a ditch, but corruption;
Upon human kind, O captive condition!
Mortality is reigning.
But like a pure river without equal,
Through the second Adam ran
The divine grace as a great torrent;
Towards man on earth it headed.
Truth in our nature was got,
From the earth it was made to spring;
O let all the angels of heaven be amazed,
At His coming to redeem us.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|