Mae yr ymdrech yn parhau
Mae fy ngobaith am lesgáu;
Llygredd calon, twyll y byd
Am fy llethu maent o hyd;
Ti, fu gynt ar Galfari,
Gwrando'n rasol ar fy nghri:
Hollalluog, fraich fy Nuw
Gadwo eiddil un yn fyw.
Brodyr imi, fyrdd a mwy,
Yn yr ymdrech buont hwy;
Ond yn ŵyneb pob rhyw loes,
Gorchfygasant drwy y groes:
Rho i minnau, Iesu mawr,
Nerth i'th dilyn Di bob awr;
Ac wrth fynd trwy ddŵr a thân,
Buddugoliaeth fydd fy nghân.
- - - - -
Mae yr ymdrech yn parhau
Mae fy ngobaith am lesgâu;
Caled ydyw brwydro cyd,
'N enbyn calon ddrwg a'r byd:
Ti, fu gynt ar Galfari,
Gwrando, gwrando ar fy nghri:
Hollalluog, fraich fy Nuw
Gadwo eiddil un yn fyw.
Brodyr imi, fyrdd a mwy,
Yn yr ymdrech buont hwy;
Ond yng ngwyneb pob rhyw loes,
Gorchfygasant trwy y Groes:
Minnau hefyd gâf wrth raid
Eu Harweinydd hwy yn blaid;
Buddugoliaeth fydd fy nghân
Gyda saint y nefoedd lân.
- - - - -
Y mae'r ymdrech yn parhau
Y mae 'ngobaith bron llesgau;
Caled ydyw brwydro cyd
A'r ddrwg galon ac â'r byd;
Ti, fu gynt ar Galfari,
Gwrando, gwrando ar fy nghri
Hollalluog, fraich fy Nuw
Gadwo eiddil un yn fyw.
Brodyr imi, fyrdd a mwy,
Yn yr ymdrech buont hwy;
Ond yn wyneb pob rhyw loes,
Gorchfygasant trwy y groes:
Minnau hefyd caf wrth raid
Eu Harweinydd hwy yn blaid;
Buddugoliaeth fydd fy nghân
Gyda saint y nefoedd lân.
John Owen Williams (Pedrog) 1853-1932
Tonau [7777D]: |
The campaign continues
My hope wants to faint;
A corrupt heart, the deceit of the world
Are always wanting to smother me;
Thou, who wast once on Calvary,
Listen graciously to my cry:
Almighty, arm of my God
Keep a feeble one alive.
Brothers to me, a myriad and more,
Were in the campaign;
But in the face of every kind of anguish,
They overcame through the cross:
Give me also, great Jesus,
Strength to follow Thee every hour;
And while going through water and fire,
Victory will be my song.
- - - - -
The campaign continues
My hope wants to faint;
It is hard to battle for so long,
Against a wicked heart and the world:
Thou, who wast once on Calvary,
Listen, listen to my cry:
Almighty, arm of my God
Keep a feeble one alive.
Brothers to me, a myriad and more,
Were in the campaign;
But in the face of every kind of anguish,
They overcame through the cross:
I also may have at need
Their Leader on my side;
Victory will be my song
With saints in the holy heavens.
- - - - -
The campaign continues
My hope is almost fainting;
It is hard to battle for so long,
With the wicked heart and with the world;
Thou, who wast once on Calvary,
Listen, listen to my cry:
Almighty, arm of my God
Keep a feeble one alive.
Brothers to me, a myriad and more,
Were in the campaign;
But in the face of every kind of anguish,
They overcame through the cross:
I also may have at need
Their Leader on my side;
Victory will be my song
With saints in the holy heavens.
tr. 2011 Richard B Gillion
|
|