Y mae arnaf fil o ofnau -
Ofnau mawrion o bob gradd,
Oll yn gwasgu gyda'u gilydd
Ar fy ysbryd, bron fy lladd:
Nid oes gallu all gongcwerio
Torf o elynion sydd yn un -
Congcro ofn, y gelyn mwyaf,
Ond dy allu di dy hun.
Ofni 'rwyf na ches faddeuant,
Ac nas caf
faddeuant mwy;
Ofni'n fynych na ches olwg
Etto ar dy farwol glwy';
Ofni fod fy meiau'n taro
Yn erbyn iachawdwriaeth rad,
Ac na châiff fy enaid egwan
Fyth ei olchi yn y gwaed.
Deuwch, yr awelon hyfryd,
Deuwch dros y bryniau pell,
Dan eich aden dawel, rasol,
Dygwch y newyddion gwell:
Dygwch newydd at fy enaid -
Fy enw innau yno gaed,
Dedwydd enw'n argraphedig
Yn yr iachawdwriaeth rad.
Boed cyfiawnder maith y nefoedd
Yno i sefyll o fy mlaen,
Yn nyfnderoedd mwyaf ofn,
Yn nyfnderoedd dŵr a thân:
O gyfiawnder! aros yno,
Ar fy mron ar hyny o bryd,
Pan fo angeu yn gwahanu'm
Corph a'm henaid yn ei lid.
Annioddefol ydyw meddwl
Marw heb im wybod p'un
A yw dy gyfiawnder perffaith
Wrth fy enaid bach ynglŷn;
Dyna'r awr yr wy'n ei hofni,
Dyna'r awr yn gyfyng sydd;
Rho i mi nerthoedd y pryd hyny,
Nes bo im ddihengu'n rhydd.
William Williams 1717-91
Tonau [8787D]: gwelir: Deuwch yr awelon hyfryd Ofni'r wyf nas ce's faddeuant |
(Fear and Hope)
I have a thousand fears -
Great fears of every degree,
All pressing together
Upon my spirit, almost killing me:
There is no power that can conquer
A host of enemies that are as one -
Conquer fear, the greatest enemy,
But thy own power.
Fearing I am that I got no forgiveness,
And that I shall nevermore
have forgiveness;
Fearing often that I shall get no sight
Again of thy mortal wound;
Fearing my faults beating
Against free salvation,
And that my weak soul shall not
Ever get washed in the blood.
Come, delightful breezes,
Come over the distant hills,
Under your quiet, gracious wing,
Bring the better news:
Bring news to my soul -
My own name is found there,
A happy name printed
In the gracious salvation.
Let the vast righteousness of heaven be
There to stand before me,
In the greatest depths of fear,
In the depths of water and fire:
O righteousness! wait there,
On my breast at this time,
Whenever death be separating my
Body and my soul in its wrath.
Insufferable is thinking of
Death without my knowing whether
Thy perfect righteousness is
Sticking to by little soul;
That is the hour I am fearing,
That is the hour of being in straits;
Give me powers at that time,
Until I have escaped free.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|