Ystyriwn ni ein ffyrdd yn ol, Y modd yn ffol eu treuliwyd, A'r gwerthfawr roddion amal ri', Er addysg ini roddwyd. Trugaredd ac amynedd mawr, Fod Iesu'n awr yn eiriol; A chywir sêl, mawr achos sy' I'w garu yn drag'wyddol. Ein hymrechiadau fyddo'n fawl, Yn hollawl o hyn allan; A'n myfyrdodau fyth am fyw, I'r Arglwydd Dduw ei hunan. Y flwyddyn newydd ro'w'd i ni, Er melus roddi moliant; O ceisiwn galon newydd 'nawr, I ganu mawr ogoniant.Edward Jones 1774/5-1838 [Mesur: MS 8787] |
Let us look back upon our ways, The means that they were foolishly spent, And the precious gifts of great number, That were given to teach us. Mercy and great patience, That Jesus is now interceding; With true zeal, that is a great cause To be sung eternally. May our efforts be praise, Wholly from now on; And our meditations forever for living To the Lord God himself. The new year that was given to us, For the sweet gift of praise; O let us seek a new heart now, To sing great glory.tr. 2022 Richard B Gillion |
|