Yn nghanol gorthrymderau
Y trigwn yn y byd;
Ac am gymdeithas Iesu
Yr wylwn lawer pryd;
Ond yn y wlad tudraw i'r bedd
Cawn yn wastadol weld ei wedd.
Ar ol helbulus deithio
I sanctaidd dŷ ein Tad,
A chyrraedd adre i Ganaan
O'r ddyrys anial wlad:
Mor felys yn dragwywydd fydd
Cael bod o'n holl flinderau'n rhydd!
Cawn roi ffarwel i bechod,
'R ol mynd i'r bywyd draw;
A'n gwynfyd byth ni thorrir
Gan dristwch, poen, na braw.
Cawn dreulio tragwyddoldeb mwy
I foli'r Hwn gadd farwol glwy.
J Gwyndud Jones 1831-1926
Tôn [767699]: Emyn Hwyrol (John B Dykes 1823-76) |
In the midst of afflictions
We dwell in the world;
And for the fellowship of Jesus
We cry many a time;
But in the land beyond the grave
We shall get constantly to see his face.
After troublesome travelling
To our Father's sacred house,
And arriving home to Canaan
From the tricky desert land:
How sweet eternally shall be
To get to be from our griefs free!
We may bid farewell to sin,
After going to the life yonder;
And our blessedness is never to be broken
By sadness, pain, nor terror.
We may spend an eternity evermore
To praise Him who received a mortal wound.
tr. 2017 Richard B Gillion
|
|