Ymledu wna llywodraeth Ior
O fôr hyd fôr yn gynnar;
O ffrwd Euphrates
fawr yn glau,
Hyd bell derfynau'r ddaear.
Ei ofni wneir mewn bryn a bro,
Tra treiglo haul a lleuad;
Daw lawr fel gwlaw ar borfa las,
Neu gawod fras ar wastad.
Fe gerir yn ei ddydd yr iawn,
A'r cyfiawn a flodeua;
Bydd heddwch hyfryd is y nen,
Tra lleuad wen yn para.
Tra haul yn troi'n yr wybren fry,
Y pery enw iddo;
Pawb a'i bendithia ef yn wir,
A phawb fendithir ynddo.
Casgliad o Salmau a Hymnau (Daniel Rees) 1837
[Mesur: MS 8787] gwelir: Hedd a chyfiawnder ar ol hyn |
The government of the Lord shall spread
From sea to sea soon;
From the stream of the great
Euphrates quickly,
As far as the ends of the earth.
His fear be made in hill and vale,
While the sun and moon orbit;
May many come like rain upon green pasture,
Or a nourishing shower on a plain.
The right shall be loved in his day,
And the righteous shall flourish;
May delightful peace be beneath the sky,
While ever the bright moon endures.
While the sun turns in the firmament above,
His name shall endure;
Everyone shall bless him truly,
And everyone shall be blessed in him.
tr. 2024 Richard B Gillion
|
|