Yr Iesu oedd a'i drigfan
erioed yn mynwes Duw,
A ddaeth o'r nef ei hunan,
yn achos dynolryw:
Bu'n dyoddef dan yr hoelion,
mae'n awr ar orsedd nef;
Fe waedodd i farwolaeth;
gogoniant iddo ef.
Er syrthio y gronyn gwenith,
a hauwyd yn y tir,
Fe welir cnwd yn tyfu
o hono cyn bo hir:
Ac oni b'sai ei farw
ni buasa obaith byw,
I enaid un pechadur
o aflan ddynolryw.
Fe ddarostyngodd Iesu
ei enaid sanctaidd cun;
Fe roes ei gorph i'w hoelio,
gan waith ei dwylaw ei hun:
Ein natur ni gymerodd,
yn ddyn yr aeth i'r bedd;
Ond Alpha Omega ydoedd,
er tloted oedd ei wedd.
Trysorfa Ysbrydol 1799
Thomas Charles 1755-1814 [Mesur: 13.13.13.13] |
Jesus had his dwelling
always in God's bosom,
Who came from heaven himself,
in the cause of humankind:
He suffered under the nails,
he is now on heaven's throne;
He bled to death;
glory to him.
Although the grain of wheat fell,
which was sown in the land,
A crop is to be seen growing
because of it before long:
And unless he had died
we would have no hope of living,
For the soul of any sinner
from unclean humankind.
Jesus humbled
his dear, holy soul;
He gave his body to be nailed,
by the work of his own hands:
Our nature he took,
as man he went to the grave;
But Alpha Omega he was,
despite how poor was his appearance.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|