Ynghanol cyfyngderau, Iesu mwyn,
O! cymorth fi;
Trom yw fy nghroes, ac anodd im ei dwyn,
O! cymorth fi;
Pererin wyf, lluddedig, llesg a gwan,
Ond nerth dy ras
a'm dwg yn iach i'r lan.
'D oes gennyf gâr na chyfaill is y nef
I'm cymorth i;
Am hynny atat Ti dyrchafaf lef,
O! cymorth fi;
Oferedd pawb a phopeth
fedd y byd:
Fy ngado wnânt,
ond un wyt Ti o hyd.
Dihangol yw myrddiynau maith yn awr,
Â'th gymorth Di;
I ddilyn ôl eu traed
trwy'r cystudd mawr,
O! cymorth fi;
A phryd y delo 'nhro i rodio'r glyn,
Rho lewyrch im,
nes cyrraedd Seion fryn.
David Rowlands (Dewi Môn) 1836-1907
[Mesur: 10.4.10.4.10.10] |
In the midst of straits, dear Jesus,
O help me!
Heavy is my cross, and hard for me to bear,
O help me!
A pilgrim I am, exhausted, feeble and weak,
But the strength of thy grace
shall bring me up whole.
I have to relative or friend under heaven
To help me;
Therefore to thee I raise my cry,
O help me!
Vain everyone and everything
the world possesses:
Leave me they shall,
but the same art thou always.
Safe are vast myriads now,
With thy help;
To follow thy footprints
through the great tribulation,
O help me!
And when my turn comes to walk the vale,
Give a gleam to me,
until reaching Zion hill.
tr. 2021 Richard B Gillion
|
|