Yng ngofidiau'r anial dyrys,
Mewn peryglon lawer awr,
Am Dy hen addewid felys,
Diolch iti, Iesu mawr;
Heulwen bywyd
Yw Dy fwyn gymdeithas Di.
Digyfnewid yw Dy gariad
Drwy y bedd a Chalfari;
At yr unig a'r amddifad
Cynnes yw Dy galon Di;
Ni anghofi
Stormydd blin
y cystudd mawr.
Pam yr oedi, O! Ddiddanydd,
Wedi prynu ein rhyddhad?
Dyro inni brofiad newydd
Dy fod eto yn y wlad,
Yn Dy heddwch
Aros bellach gyda ni.
Mae amheuon yn ein blino,
A gobeithion yn llescau,
A'n gelynion byth yn effro,
A'u byddinoedd yn cryfhau;
Tyred, Iesu,
Ti Dy Hun all gario'r maes.
Evan Rees (Dyfed) 1850-1923
[Mesur: 878747] |
In the griefs of the troublesome desert,
In perils many an hour,
For thy old, sweet promise,
Thanks to thee, great Jesus;
The sunshine of life
Is thy dear company.
Unchanging is thy love
Through the grave and Calvary;
Towards the lonely and the forlorn
Warm is thy heart;
Thou wilt not forget
The grievous storms
of the great tribulation.
Why does thou delay, O Comforter,
Having bought our freedom?
Grant us a new experience
That thou art still in the land,
In thy peace
Stay henceforth with us.
Doubts are grieving us,
And hopes are weakening,
And our enemies are ever awake,
And their armies strengthening;
Come, Jesus,
Thou thyself can carry the field.
tr. 2021 Richard B Gillion
|
|