|
1,(2,3).
Yn wyneb gorthrymderau,
Af ym mlaen, âf ym mlaen;
A duon ragluniaethau,
Af ym mlaen:
Er môr a'i dònau mawrion,
A dyfroedd Mara chwerwon,
Yn nghyd a'm'holl elynion,
Af ym mlaen, âf ym mlaen,
Nes gorphwys fry yn Sion,
Af ym mlaen.
'D'oes yma ond
trai a llanw,
I barhau, i barhau;
Ac yfed cwpan chwerw,
I barhau;
Ond yn y Ganaan nefol,
Dim eisieu yn drag'wyddol,
Gaf ddysglaer ddyfroedd bywiol,
I barhau, i barhau,
A'i yfed yn wastadol,
I barhau.
Aeth llu o'r genedl gyfion,
Oll yn iach, oll yn iach:
I sanctaidd ddinas Sïon,
Oll yn iach;
Mae eto dyrfa yn dyfod,
O'r cystudd mawr a'r trallod,
Cawn yno gydgyfarfod,
Oll yn iach, oll yn iach,
Ar ddysglaer wedd ein Priod,
Oll yn iach.
1 : Grawn-Sypiau Canaan 17952-3: Grawn-Sypiau Canaan 1805
- - - - -
Yn wyneb gorthrymderau
Af ym mlaen -
A duon ragluniaethau,
Af ym mlaen;
Er môr a'i donnau mawrion,
A dyfroedd Mara chwerwon,
Yn nghyd â'm holl elynion,
Af ym mlaen;
Nes gorphwys fry yn Seion,
Af ym mlaen!
O anllygredig ddinas,
Rho'th fwynhau,
Anniflandeig deyrnas,
Rho'th fwynhau!
Y noddfa dawel hyfryd,
Lled ni ddaw poen na adfyd;
O! ddedwydd dir y bywyd,
Rho'th fwynhau;
Cartrefle fy Anwylyd,
Rho'th fwynhau!
1: Grawn-Sypiau Canaan 17952: Morgan Rhys 1716-79
Tonau [7373.7773.73]: gwelir: Aeth llu o'r genedl gyfion Mae efengyl gras yn t'wynu O rhedwn bawb yr yrfa |
In the face of oppressions,
I will go on, I will go on;
And black providences,
I will go on:
Despite sea and its great waves,
And the bitter waters of Mara,
Together with all my enemies,
I will go on, I will go on,
Until resting above in Zion,
I will go on.
There is nothing here but
ebbing and flowing,
To endure, to endure;
and a bitter cup to drink,
To endure;
But in the heavenly Canaan,
No want eternally,
I will get bright, living waters,
To endure, to endure,
And to drink them constantly,
To endure.
A host of the righteous generation went,
All healthy, all healthy:
To the holy city of Zion,
All healthy;
There is still a throng coming,
From the great tribulation and the trouble,
They may meet there,
All healthy,
In the radiant image of our spouse,
All healthy.
- - - - -
In the face of oppressions,
I will go on -
And black providences,
I will go on;
Despite a sea and its great waves,
And the bitter waters of Mara
Together with all my enemies,
I will go on;
Until resting above in Zion,
I will go on!
O incorruptible city,
Grant to enjoy thee!
Perpetual kingdom,
Grant to enjoy thee!
The quiet, delightful refuge,
No pain or adversity shall come;
O happy land of life,
Grant to enjoy thee;
Dwelling-place of my Beloved,
Grant to enjoy thee!
tr. 2017,20 Richard B Gillion
|
|