Yn Salem draw bydd peraidd sôn,
A chanu i'r croeshoeliedig Oen,
Am iddo dalu'r dyled mawr:
A dwyn pechadur oedd yn gaeth,
I ryddid pur yn wir a wnaeth,
Fe gaiff y clod
gan lwch y llawr.
'Rwy'n caru cofio am ei glwy',
Ac am ei waed mi gana' mwy;
Myfyrio wnaf ar ddwyfol loes:
Mi gofiaf hefyd am yr awr,
Y t'w'llodd nef, y crynodd llawr,
Pan oedd E'n griddfan ar y groes.
Yn foddlon mae cyfiawnder Duw,
A'i gyfraith anrhydeddus yw;
O'r carchar caeth
daw myrdd yn rhydd;
Boed clod i
D'wysog mawr y ne',
Fe aeth i'r lladdfa yn ein lle,
O f'enaid cân wrth gofio'r dydd.
O'r carchar :: O'u carchar
- - - - -
Yn Salem draw bydd peraidd sôn,
A charu'r croeshoeliedig Oen,
Am iddo gofio llwch y llawr;
A dwyn pechadur oedd yn gaeth,
I ryddid pur yn wir a wnaeth,
Fe gaiff y clod
gan dyrfa fawr.
'Rwi'n caru cofio am ei glwy,
Ac am ei waed
diolchaf mwy,
A'i ganmawl wnaf ar hyd fy oes;
Mi gofiaf hefyd am yr awr,
Tywyllodd nef, y crynodd llawr,
Pan oedd E'n dyoddef ar y groes.
Yn foddlon mae cyfiawnder Duw,
A'i gyfraith anrhydeddus yw,
Wrth wneyd pechadur caeth yn rhydd;
Boed clod i Frenin mawr y ne',
Fe aeth i'r lladdfa yn ein lle,
Diolchwn iddo Ef bob dydd.
Caniadau Bethel (Casgliad Evan Edwards) 1840
Tôn [888D]: Orleans (<1876) |
In yonder Salem shall be a sweet sound,
And singing to the crucified Lamb,
Because he paid the great debt:
And bring a sinner who was captive,
To pure freedom truly he did,
He shall get the acclaim
from the dust of the ground.
I love to remember his wound,
And about his blood I shall sing evermore;
Meditate I shall on divine anguish:
I shall remember too the hour,
When heaven darkened, when earth shook,
When he was groaning on the cross.
Satisfied is the righteousness of God,
And his law is honoured;
From the captive prison
a myriad shall come free;
May acclaim be to the great
Prince of heaven,
He went to the slaughter in our place,
O my soul, sing on remembering the day.
From the ... prison :: From their ... prison
- - - - -
In yonder Salem shall be a sweet sound,
And loving the crucified Lamb,
Because he remembered
the dust of the ground;
And bring a sinner who was captive,
To pure freedom truly he di,
He shall get the acclaim
from a great throng.
I love to remember his wound,
And about his blood I shall
give thanks evermore,
I shall remember too the hour,
When heaven darkened, when earth shook,
When he was suffering on the cross.
Satisfied is the righteousness of God,
And his law is honoured,
On making a captive sinner free;
May acclaim be to the great King of heaven,
He went to the slaughter in our place,
Let us give thanks to him every day.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|