Ymddyrcha Dduw y nef uwchlaw

(Ymbiliau am wyneb Duw)
1,2,3,4,(5),6,7.
Ymddyrcha, Dduw, y nef uwchlaw,
  Oddi yno daw d'arwyddion;
A bydded dy ogoniant ar
  Y ddaear, a'i thrigolion.

O, estyn eto, i barhau,
  Dy drugareddau tirion;
Ni a'th adwaenom di a'th ddawn,
  I'r rhai sydd uniawn galon.

Llewyrcha i'n c'lonau ni a'th ras,
  Fel byddo gas in' bechu;
Ac ini mewn sancteiddrwydd rhydd,
  Bob dydd dy wasanaethu.

Dof finnau tua'th dŷ mewn hedd,
  Am dy drugaredd galwaf;
Mewn ofn, a pharch,
    a goglud dwys,
  I'th sanctaidd eglwys treiglaf.

Dy lwybrau di y'nt hyfryd iawn,
  Dy ffyrdd y'nt lawn hyfrydwch;
Nag amlder ŷd
    neu win, fy Nuw,
  Melusach yw dy heddwch.

Mor gu, Arglwydd, genyf fi
  Dy ddeddf di, a'th gyfammod;
Ac ar y rhai'n, o ddydd i ddydd,
  Y bydd fy holl fyfyrdod.

Glyned fy nghalon bellach byth,
  Duw wrth dy ddilyth eiriau;
Fel gallwyf deithio 'mlaen o hyd,
  Yn union 'r'hyd dy lwybrau.
Edmwnd Prys 1544-1623
- - - - -
(Llwyddiant yr Efengyl)
Ymddyrcha, Dduw, y nef uwchlaw,
  Oddiyno daw d'arwyddion;
A bydded Dy ogoniant ar
  Y ddaear a'i thrigolion.

O Arglwydd, achub fyrdd yn awr,
  Pâr lwyddiant mawr, attolwg;
A'r Ysbryd o'r uchelder fo
  Yn nerthol weithio'n amlwg. 

Ar foddion gras,
    hyd eitha'r byd,
  Yn hyfryd byddo llwyddiant;
Ar frys ennilled Iesu mawr
  Derfynau'r llawr i'w feddiant.

Pan adeilader Seion wych,
  Bydd hon yn ddrych i'r gwledydd;
Pan weler gwaith
    yr Arglwydd ne',
  Fe'i molir e'n dragywydd.
1: Edmwnd Prys 1544-1623
2: Edmwnd Prys neu Gwilym Cyfeiliog
3: William Williams (Gwilym Cyfeiliog) 1801-76
4: Edmwnd Prys 1544-1623
- - - - -
(Ymbil am wyneb Duw)
Ymddyrcha, Dduw, y nef uwchlaw,
  Oddiyno daw d'arwyddion;
A bydded Dy ogoniant ar
  Y ddaear a'i thrigolion.

O gyr dy oleu, moes dy wir,
  Ac felly t'wysir finau;
Arweiniant fi i'th breswylfeydd,
  I'th fynydd ac i'th demlau.
Edmwnd Prys 1544-1623

Tonau [MS 8787]:
Caersalem (alaw Gymreig)
Dyfroedd Siloah (John Williams 1740-1821)
Gorffwysfa (Rees Williams 1846-1934)
Oldenburgh (J H Schein 1586-1630)
Potsdam (<1875)
Tegid (<1876)

gwelir:
Barn fi O Duw a dadleu'n dỳn(n)
Dy drugaredd fy Arglwydd Ion
Dy fawr drugaredd f'Arglwydd Iôn
Dy lwybrau di y'nt hyfryd iawn
Dy ras dy nawdd fy Nuw im dod
Mor gu O Arglwydd genyf fi
Mor werthfawr yw'th drugaredd di
O Arglwydd achub fyrdd yn awr
O Arglwydd Dduw y lluoedd mawr
O frasder da llawn yw dy dŷ
O gyr dy oleu moes dy wir
O mor werthfawr fy Arglwydd Dduw
Pa fodd O Dduw y ceidw llanc?
Pob cyfryw ddyn y sydd a'i daith
Tydi yw Duw fy nerth i gyd
Yr unwedd ag y brefa'r hydd

(Entreaties for the face of God)
 
Be exalted, God, above the heavens,
  From there come thy promises;
And may thy glory be over
  The earth, and its inhabitants.

O, stretch out again, to continue,
  Thy tender mercies;
We know thee and thy gift,
  To those up are of upright heart.

Shine thou to hearten us with thy grace,
  That sinning may be abhorrent to us;
And that we may be in free sanctity,
  Every day serving thee.

Bring me towards thy house in peace,
  For thy mercy I call;
In fear, and reverence,
    and intense dependence,
  To thy holy church I will make my way.

Thy paths go very delightfully,
  Thy roads go full of delight;
Than the abundance of grain
    or wine, my God,
  Sweeter is thy peace.

How dear, Lord, to me
  Thy law, and thy covenant;
And on them, from day to day,
  Be all my meditation.

May my heart stick henceforth forever,
  God to thy unfailing words;
Thus may I travel on still,
  Directly along thy paths.
 
- - - - -
(The Success of the Gospel)
Be exalted, God, above the heavens,
  From there come thy promises;
And may thy glory be over
  The earth, and its inhabitants.

O Lord, save a myriad now,
  Cause great success, we beseech thee;
And the Spirit from the height be
  Strongly working evidently.

On the means of grace,
    to the extremities of the world,
   Delightfully be there success;
Quickly, may great Jesus win
  The ends of the earth for his possession.

When brilliant Zion is to be rebuilt,
  This will be as a mirror to the nations;
When the work of the
    Lord of heaven is seen,
  He is to be praised in eternity.
 
 
 
 
- - - - -
(Entreaty for the face of God)
Be exalted, God above the heavens,
  Thence may thy signs come;
And may Thy glory be over
  The earth and its inhabitants.

O send thy light, give thy truth,
  And thus I am to be led;
Guide me to thy dwelling-places,
  To thy mountain and to thy temples.
tr. 2016,19 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~