Y gŵr ar ffynnon Jacob
Eisteddodd gynt i lawr,
Dramwyodd trwy Samaria,
Mae'n tramwy yma 'nawr;
'Roedd syched arno yno,
Am dan eu hachub hwy,
Mae syched arno eto,
Am achub llawer mwy.
Goleua'n meddwl ninnau,
I weld dy ddawn, O! Dduw,
A phwy sy'n galw arnom
I yfed dyfroedd byw;
A gadael ein pydewau,
A'n dwfr-lestri'u hun
I yfed dyfroedd gloywon
O ffynnon Mab y Dyn.
Efe yw dwr y bywyd,
A'i hyfo, gwynfyd hwy,
Traid o bydewau eraill
Ymofyn dwfr mwy;
Bydd dwfr
ffynnon Beth'lem,
I'r rhaid y daeth i'w rhan,
Yn ffynnon o ddwr bywiol,
Yn tarddu byth i'r lân.
Thomas William 1761-1844Perl mewn Adfyd 1814
Y Gŵr wrth Ffynnon Jacob
Eisteddodd gynt i lawr,
Tramwyodd drwy Samaria,
Tramwyed yma nawr;
'Roedd syched arno yno
Am gael eu hachub hwy,
Mae syched arno eto
Am achub llawer mwy.
Mwy, mwy,
Am achub llawer mwy,
Mae syched arno eto
Am achub llawer mwy.
Y Gŵr fu ar Galfaria,
A welir ddydd a ddaw;
Yn eistedd ar ei orsedd,
A'r glorian yn ei law;
A phawb a gesglir yno,
I'w pwyso ger ei fron;
O! f'enaid cais dduwioldeb,
I droi y glorian hon.
Hon, hon
A dry y glorian hon.
O! f'enaid, cais dduwioldeb
A dry y glorian hon.
Ni buasai gennyf obaith
Am ddim ond fflamau syth,
y pryf nad yw yn marw,
A'r t'wyllwch dudew byth,
Oni buasai'r hwn a hoeliwyd
Ar fynydd Calfari
O ryw anfeidrol gariad
Yn cofio amdanaf fi.
Fi, fi,
Yn cofio amdanaf fi,
O ryw anfeidrol gariad
Yn cofio amdanaf fi.
Er cwrdd â myrdd o rwystrau,
Er ofni lawer gwaith,
Mae help yr Iesu'n ddigon
I'n dwyn i ben y daith:
Yn lân o bob rhyw bechod,
Yn iach o bob rhyw glwy',
Mor felys fydd cartrefu
Yn nhŷ ein Tad byth mwy.
1: Thomas William 1761-18442: Thomas Phillips 1772-1842 3: William Williams 1717-91 4: Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953
Tôn [7676+2676]: Bryniau Cassia gwelir: Bydd myrdd o ryfeddodau Y Gŵr fu ar Galfaria |
The man on the Jacob's well
Sat down once,
He traversed through Samaria,
He traverses here now;
He had a thirst then,
To get to save them,
He has a thirst still,
To save many more.
Enlighten our minds too,
To see thy gift, O God!
And who is calling upon us
To drink living waters;
And leave our pits,
And our water-vessels themselves
To drink bright waters
From the well of the Son of Man.
He is the water of life,
One who drinks it, blessed are they,
One must from other pits
Ask for water over again;
The water of the well
of Bethlehem shall be,
To those who came to its portion,
A spring of lively water,
Springing up forever.
The Man at Jacob's Well
Once sat down,
He traversed through Samaria,
May he traverse here now;
He had a thirst then
To get to save them,
He still has a thirst
To save many more.
More, more,
To save many more,
He still has a thirst
To save many more.
The Man who was once on Calvary,
To be seen on the day to come;
Sitting on his throne,
With the scales in his hand;
And everyone to be gathered there,
To be weighed before him;
O my soul seek godliness,
To turn those scales.
Those, those
Which will turn those scales.
O my soul seek godliness
Which will turn those scales.
I would not have hope
For anything but immediate flames,
And the worm which does not die,
And the pitch-black darkness forever,
Unless he would who was nailed
On the mount of Calvary
From some immeasurable love
Remember me.
Me, me,
Remember me,
From some immeasurable love
Remember me.
Despite meeting with a myriad of obstacles,
Despite fearing many a time,
The help of Jesus is sufficient
To lead us to the journey's end:
Clean from every kind of sin,
Whole from every kind of disease,
How sweet shall be making our home
In our Father's house for evermore.
tr. 2013,25 Richard B Gillion
|
May He who once at mid-dayHowell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953 Missing from on-line versions of Sweet Singers of Wales 1889 |