Y Gair a wnaethpwyd i ni'n gnawd, A dyndawd yr ymunodd, I ddwyn bendithion rif y gwlith, Ac yn ein plith fe drigodd. Fe welwyd ei ogoniant ef, Yn ffurfiad nef a daear; Ond gorchwyl penaf Tri yn Un, Oedd cyrchu dyn o'i garchar. Mwy llawn o ras na'r môr o ddw'r, Yw noddwr pechaduriaid; Ffynnonell y wirionedd yw, Yn ddyn a Duw bendigaid. Mi a ymddiriedaf ynddo mwy A'i anchwiliadwy olud; Er fy malurio yn y bedd, Caf trwyddo hedd a bywyd.John Williams c.1778-1865 Casgliad o Hymnau (y Wesleyaid) 1817 [Mesur: MS 8787] |
The Word who was made flesh for us, With humanity joined himself, To bring blessings numerous as the dew, And amongst us he dwelt. His glory was seen In the formation of heaven and earth; But the chief business of the Three in One, Was to fetch man from his prison. More full of grace than the sea of water, Is the protector of sinners; The fount of the truth is he, As man and blessed God. I will trust in him evermore And his unsearchable riches; Although I decay in the grave, Through him I shall get peace and life.tr. 2023 Richard B Gillion |
|