Wrth fy nghuro gan y gwyntoedd,
Wrth fy maeddu gan y don;
Wrth fy nryllio yn erbyn creigiau,
Blinais ar y ddaiar hon;
O am ddyddiau,
Pan ddarfyddo pechu yn lān.
Yn y bore 'rwyf yn meddwl
Cadwai'r llwybyr hyd bryd nawn;
Etto gŵyro'n ddiarwybod
'Rwyf oddi arno'n fuan iawn:
Camsyniadau
Fwyaf sydd yn llanw f'oes.
O ddedwyddwch anghymharol!
Dysgwyl ydwyf, fore a nawn,
I I gael profi'm calon ffiaidd,
O rasusau'r nef yn llawn:
Dyred, Arglwydd,
Mae dy gwm'ni'n well na'r gwin.
William Williams 1717-91
Tonau [878747]: gwelir: Croesau trymion sydd yn felus O sancteiddia f'enaid Arglwydd |
By being beaten by the winds,
By being battered by the wave;
By being smashed against rocks,
I am wearied on this earth;
O for days,
When sinning will pass away wholly.
In the morning I am thinking
I will keep the path until afternoon;
Still veering unawares
I am off it very soon:
The greatest
Mistakes are filling my lifetime.
O incomparable happiness!
Expecting I am morning and afternoon,
To get to experience my detestable heart,
Full of the graces of heaven:
Come, Lord,
Thy company is better than wine.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|