Wrth dy ystlys wyf am aros,
Wrth dy ystlys mae fy lle;
Yn dy fynwes mae fy lletty
Diogelaf is y ne';
Noddfa yw, byddaf byw,
Tan gystuddiau o bob rhyw.
Caled yw dyoddef cystudd
Mewn anialwch maith yn hir,
Methu teimlo pur ddyddanwch,
Addewidion Canaan dir:
Ond fe ddaw, maes o law,
Sypiau peraidd oddi draw.
Ffarwel oll o dan yr wybren,
Mi wnes ddewis hyfryd wiw,
O drysorau uwch pob meddwl,
Sy'n guddiedig yn fy Nuw;
Fe rhydd lawr, gafod fawr,
Pan y delo'r gyfyng awr.
Casgliad o Hymnau (... ein Heglwys) Daniel Jones 1863 Tôn [8787337]: Moldavia (alaw Ellmynig) |
By thy side I am staying,
By thy side is my place;
In thy bosom is my safest
Lodging under heaven;
A refuge it is, I shall live,
Under afflictions of every kind.
Hard it is to suffer affliction
In a vast desert for long,
Failing to fell the pure comfort,
Of the promises of Canaan land:
But shall come, in a while,
Sweet clusters from yonder.
Farewell all under the sky,
I made a worthy, delightful choice,
Of treasures above every thought,
Which are hidden in my God;
He will send down, a great shower,
When the straitened hour comes.
tr. 2018 Richard B Gillion |
|