Wrth dy orsedd 'r wyf yn gorphwys,
Llefain fore a phrydnawn,
Am gael clywed llawn ddistawrwydd,
O'm heuogrwydd tanllyd iawn:
A thangnefedd, &c.
Pur o mewn yn cadw ei le.
'D oes ond gras yn eitha'i allu
Ddaw ā'm henaid idd ei le;
'Does ond unig ras a'm ceidw
O fewn muriau'i gariad ef:
Uwch law dyfais, &c.
Dyn a'i allu, mae ei rym.
Llef ddrylliedig gref y croesbren
Sydd yn abl maddeu 'mai;
Llef y croesbren sydd yn abl
Gwneyd i'm henaid 'difarhau:
Ar Galfaria, &c.
Fynydd sanctaidd, mae fy ngrym.
Mi ddysgwyliaf yno'n dawel,
Ac mi greda ryw bryd daw
Gwaredigaeth i garcharwr,
Bur oddiyno maes o law;
Doed pan ddelo, &c.
Mi ddysgwyliaf nes ei ddod.
Wrth dy orsedd di mae bywyd,
Yno cāf fi hedd a grym;
Ac ni fethodd is y nefoedd,
Ag a geisiodd gennyt ddim,
Minnau aflan, &C.
Ddeuaf at orseddfa rad.
Tyr'd am hynny Iesu yn fuan,
Sāf o blaid yr euog gwan,
Sy'n lluddedig gan gystuddiau,
Dyfnion, trymion, y'mhob man:
Yn dy glwyfau, &c.
Caiff fy lloches innau fod.
Yn y ffynnon a agorwyd,
Yn dy ystlys ar y pren,
'Rwyf fi'n dod a'm gwisg yn aflan,
I'w chanu yno'n hyfryd wyn:
Mi dd'of allan, &c.
Fel yr eira ar y bryn.
Mae e'n maddeu beiau mawrion,
Ac yn caru yn ddidrai;
A lle caro, mae ei gariad
Yn drag'wyddol yn parhau:
Nid oes terfyn, &c,
Ar ei gariad, ar ei ras.
sydd yn abl :: a all hefyd Gwneyd i'm henaid 'difarhau :: Wneuthur im edifarhau
Tonau [878747]:
gwelir: |
By thy throne I am resting,
Crying out morning and afternoon,
To get to hear full silence,
From my very fiery guilt:
And pure
Peace within keep its place.
Only grace of utmost ability
Brings my soul to its place;
On grace alone keeps me
Within the walls of his love:
Above the scheming
Of man and his ability, is its power.
The strong shattered cry of the wooden cross
Is able to forgive my fault;
The cry of the wooden cross is able
To make my soul repent:
On Calvary,
The sacred mountain, is my power.
I am waiting there quietly,
And I believe some time shall come
Deliverance for a prisoner,
Clean out of there soon;
Come when it will,
I will wait until it comes.
By thy throne is life,
There I may have peace and strength;
And it never failed under heaven,
And which sought nothing from thee,
Even I unclean,
Shall come to thy gracious throne.
Come, then, Jesus, soon,
Stand on the side of a guilty, weak one,
Who is corrupted by afflictions,
Deep, heavy, everywhere:
In thy wounds,
Shall my own refuge get to be.
In the well which was opened,
In thy side on the tree,
I am coming with my unclean clothing,
To bleach it there delightfully white:
I shall come out,
Like the snow on the hill.
He is forgiving great faults,
And loving unebbingly;
And where he loves, his love is
Eternally enduring:
There is no limit
To his love, to his grace.
is able :: is able also To make my soul repent :: To make me repent tr. 2015,19 Richard B Gillion |
|