Wyneb siriol fy anwylyd,
Yw fy mywyd yn y byd,
Ffarwel bellach bob eilynod,
Iesu 'Mhrïod aeth a 'mryd:
Brawd mewn myrdd o gyfyngderau,
Ffrind mewn môr o ofid yw,
Ni chais f'enaid archolledig,
Neb yn feddyg ond fy Nuw. [MR]
Nid yw'r haul a'i faith fendithion,
Bywyd hardd y ddaear las,
Sy'n llawenu pob creadur,
Yn enwedig llysiau'r ma's;
'Dyw ei harddwch a'i oleuni,
A'i effeithiau ar y llawr,
Onid dim wrth eu cymharu
A rhinweddau Iesu mawr. [G2]
Maith drugaredd a gwirionedd,
A'r tiriondeb mwya ma's,
Sy fel haelwen nef
yn ddisglaer,
Trwy holl rannau pur ei ras:
Boed fy nhafod bydd tra fyddwyf,
Gerdded ar yr anthem hyn,
Cariad pur yn dioddef marw,
Tros bechadur ar y bryn. [G2]
Ac ni fydd mo dragwyddoldeb,
Ddim yn ormod er ei hyd,
I ddatguddio hen ddyfderoedd,
Cariad Iesu maes i gyd;
Holl rinweddau maith ei glwyfau,
Poenau'r hoelion meinion llym,
A wna oesoedd i fyn'd heibio,
Etto heb eu gweled ddim. [G2]
1,2,3,4,5,7; 1,(2),6.
Wyneb siriol fy anwylyd,
Yw fy mywyd yn y byd,
Ffarwel bellach bob eilynod,
Iesu 'Mhrïod aeth a'm 'ryd:
Brawd mewn myrdd o gyfyngderau,
Ffrind mewn môr o ofid yw,
Ni chais f'enaid archolledig,
Neb yn feddyg ond fy Nuw. [MR]
'Rwy'n teimlo f'enaid 'n awr yn caru
Yr Oen, ogwyddodd, droso'i 'i ben;
Dywedodd Iesu mawr "Gorffennwyd",
Wrth dalu 'nyled ar y pren:
'Rwy'n caru hardd lyth'rennau Enw,
Efe fu farw yn fy lle:
'Does gyfaill yn y byd rwy' ynddo,
A bery'n ffyddlon fel efe. [MR]
Rho dy heddwch fel yr afon,
Rho faddeuant fel y môr,
Profi gronyn yn feunyddiol,
O dy annherfynol stor;
Na bwi'n diffygio yn yr anial,
Y lle nad oes na dwfr na gwîn,
Ond cael teimlo y pur gawodau,
Sy'n adfywio f'enaid blîn. [G1]
Ar dy allu 'rwy'n ymddiried:
Mi anturiaf, doed a ddêl,
Dreiddio drwy'r afonydd dyfnion,
Mae dy eiriau oll dan sêl;
Cyfoeth mawr heb fesur arno,
Trysor mwy na'r moroedd maith,
Welai draw yn nghadw i mi,
Hir brydnawn ar ben fy nhaith. [G1]
Dyma'r llwybr a ddewisais,
Etto 'rwyf heb 'difarhau;
Disgwyl f'etifeddiaeth 'rydwyf,
Etto heb gael ei mwynhâu:
Myn'd rwy'n llwm
tua thir y bywyd -
Ffon yn unig yn fy llaw;
Mi a 'mlaen dros yr Iorddonen,
Mae 'nghyfeillion anwyl draw. [G1]
Dyddiau blin fy mhererindod
Sydd ar ddarfod yn ddi lai;
Ffarwel yfed dyfroedd Mara,
I ddinas arall 'rwy'n neshau:
Teimlo f'enaid 'rwy'n ymadael
A'r creaduriaid ar y llawr;
Fy hiraeth beunydd sy am fyn'd adref
I'r dedwydd dragwyddoldeb mawr.[MR]
Mi gâf glywed cydsain hyfryd,
Digrëedig TRI yn UN,
Yn cyhoeddi heddwch nefol,
Perffaith wrthyf fi fy hun;
Saint, Seraphiaid, ac Angylion,
Mewn rhyw harddwch uwch y rhôd,
Gydâ mi yn seinio'r Anthem,
O anfeidrol ddwyfol glôd. [G1]
- - - - -
Wyneb siriol fy anwylyd,
Yw fy mywyd yn y byd,
Ffarwel bellach bob eilynod,
Iesu 'Mhrïod aeth a'm 'ryd:
Brawd mewn myrdd o gyfyngderau,
Ffrind mewn môr o ofid yw,
Ni chais f'enaid archolledig,
Neb yn feddyg ond fy Nuw. [MR]
Y mae nefoedd yn Ei gwmni,
Y mae bywyd yn ei wedd;
Ag sy'n gwneuthur angeu'n gyfaill,
Ag sydd yn gorchfygu'r bedd:
Rho'th gyfeillach Iesu addfwyn,
Dyna wyf yn ei geisio i gyd;
Ac mi fyddaf mwy yn foddlawn,
Boed a fyddo yn y byd. [WW]
- - - - -
Wyneb siriol fy Anwylyd
Yw fy mywyd yn y byd,
Ffarwel bellach bob eilunod,
Iesu, 'Mhrïod, aeth â 'mryd:
Brawd mewn myrdd o gyfyngderau,
Ffrynd mewn môr o ofid yw;
Ni chais f'enaid archolledig
Neb yn feddyg ond fy Nuw. [MR]
O am yfed yma beunydd
Ffrydiau'r iachawdwriaeth fawr,
Nes fy hollol ddisychedu
Am siomedig bethau'r llawr;
Byw dan ddysgwyl am fy Arglwydd,
Bod pan ddelo'n effro iawn,
I agoryd iddo'n ebrwydd,
A mwynhau ei ddelw'n llawn. [AG]
Welodd haul erioed wrth redeg
Ei dro diderfyn yn y nef,
Yn y sêr, neu ar y ddaear,
Wrthddrych tebyg iddo Ef;
A oes trysor, ond ei 'mofyn,
Yn nyfnderoedd daear las,
I'r filfed ran, pan yn y glorian,
Bwysa Iesu
Grist a'i ras? [WW]
Nerth os caf, mi frysiaf mwyach
I fynu tua'm gwlad fy hun,
Lle mae'm Nuw yn gwisgo'n berffaith
Mewn gogoniant natur dyn:
Na enwer i mi gartref bellach,
Fangre arall ond y ne';
Neb yn Dad, na neb yn Briod,
Neb yn Arglwydd ond efe. [WW]
- - - - -
Wyneb siriol fy Anwylyd
Yw fy mywyd yn y byd;
Ffarwel bellach bob eilunod,
Iesu 'Mhriod aeth â'm bryd,
Brawd mewn myrdd o gyfyngderau,
Ffrind mewn môr o ofid yw;
Ni chais f'enaid archolledig
Neb yn Feddyg ond fy Nuw. [MR]
Yn yr Arglwydd 'rwy'n ymddiried,
Pwy all wneuthur niwed im?
Dan ei adain mi gysgodaf
Yn yr aflwydd mwya'i rym;
F'enaid ddaeth i'r ddinas noddfa,
Yno bellach byddaf fyw;
Ni chais f'enaid archolledig
Neb yn Feddyg ond fy Nuw. [MR]
MR: Morgan Rhys 1716-79 (Golwg o Ben Nebo 1775)G1: ? William Williams 1717-91 (Grawn-Sypiau Canaan 1805) G2: ? William Williams 1717-91 (Grawn-Sypiau Canaan 1829) WW: William Williams 1717-91
Tonau [8787D]: gwelir: Bryd ca'i wel'd y tir dymunol Clywaf lais gan bob rhyw raddau Dyddiau blin fy mhererindod Dyma'r llwybr a ddewisais Fy enaid 'hêd tua'th etifeddiaeth Gofidus ddyddiau'm pererindod Henffych Iesu'r Duw tragwyddol Mae dy lwybrau cul yn hyfryd Manna nefol sy arnaf eisiau Minau bryfyn gwael o'r ddaear Nid oes (g)wrthddrych ar y ddaear Nid yw'r haul a'i faith fendithion 'Rwy'n teimlo f'enaid 'n awr yn caru Rhwyga'r tew gymylau duon Trwy dymhestloedd blin a thònau Tyred Iesu i'r anialwch Y mae'r oriau yn fy ngalw Yn Erbyn 'stormydd mawr a thonnau |
The cheerful face of my beloved,
Is my life in the world,
Farewell now to every idol,
Jesus my Spouse took my affections:
A brother in a myriad of distresses,
A friend in a sea of griefs he is,
My wounded soul does not seek,
Any physician but my God.
The sun is not with its vast blessings,
The beautiful life of the blue-green earth,
Which is gladdening every creature,
Especially the herbs of the field;
Its beauty and its lights are not,
With their effects on the ground,
Anything at all in comparison
To the merits of great Jesus.
The vast mercy and truth,
And the greatest tenderness known,
Which like the sunshine of the heavens
are shining,
Through all the pure portions of his grace:
Let my tongue be as long as I live,
Walking on this anthem,
The pure love suffering death,
For a sinner on the hill.
And none of eternity shall be
Any too much despite its length,
To reveal the old depths
Of the love of Jesus henceforth forever;
All the vast merits of his wounds,
The pains of the sharp, pointed nails,
Shall make ages go past,
Still without seeing them at all.
The cheerful face of my beloved,
Is my life in the world,
Farewell now to every idol,
Jesus my Spouse has taken my affection:
A Brother in a myriad distresses,
A Friend in a see of griefs he is
My wounded soul does not seek
Anyone as a physician but my God.
I feel my soul now loving
The Lamb, who bowed, for me, his head;
Great Jesus said, "It is finished",
While paying my debt on the tree:
I love the beautiful letters of the Name,
Of him who died in my place:
There is no friend in the world I am in,
Who remains faithful like him.
Give thy peace like the river,
Give forgiveness like the sea,
To experience a grain daily,
Of thy boundless store;
I shall not tire in the desert,
The place there is no water or wine,
But get to feel the pure showers,
Which revive my weary soul.
On thy power I am trusting:
I shall venture, come what may,
Penetrating through the deep rivers,
Are all thy words under a seal;
Great wealth without any measure upon it,
Treasure greater than the vast seas,
I would see yonder keeping for me,
A long afternoon at the end of my journey.
Here is the path I have chosen,
Still I am without regret;
Expecting my inheritance I am,
Still without getting to enjoy it:
Going I am barely
towards the land of the living -
A staff alone in my hand;
I shall go on across the Jordan,
My dear friends are yonder.
The weary days of my pilgrimage
Are about to vanish no less;
Farewell to drinking the waters of Mara,
To another city I am nearing:
My soul feels I am leaving
The creatures on the earth;
My longing daily is to go home
To the happy, great eternity.
I shall get to hear a delightful echo,
Uncreated THREE in ONE,
Publishing perfect, heavenly
Peace to me myself;
Saints, Seraphim, and Angels,
In some beauty above the sky,
With me sounding the Anthem,
Of immeasurable, divine praise.
- - - - -
The cheerful face of my beloved,
Is my life in the world,
Farewell now to every idol,
Jesus my Spouse has taken my affection:
A Brother in a myriad distresses,
A Friend in a see of griefs he is
My wounded soul does not seek
Anyone as a physician but my God.
There is heaven in his company,
There is life in his countenance;
And which is making death a friend,
And which which is overcoming the grave:
Give thy friendship, gentle Jesus,
That is all I am seeking;
And I shall be evermore faithful,
Come what may in the world.
- - - - -
The cheerful face of my Beloved
Is my life in the world,
Farewell henceforth every idol,
Jesus, my Spouse, has taken my attention:
A Brother in a myriad of straits,
A Friend in a sea of grief he is;
My wounded soul shall not seek
Any physician but my God.
O to drink here daily
The streams of great salvation,
Until I am cured of my thirst
For the disappointing things of earth;
To live while expecting my Lord,
To be when he comes very awake,
To open up to him quickly,
And enjoy his appearance fully.
The sun never saw while running
His endless course in heaven,
In the stars, or on the earth,
Any object similar to Him;
Is there treasure, but to be asked for,
In the depths of blue-green earth,
To the thousandth part, when in the scales,
That will weigh Jesus
Christ and his grace?
If I get strength, I will hurry henceforth
Up towards my own land,
Where my God is dressed perfectly
In the glory of the nature of man:
Not to be called home for me henceforth,
Is any other premises but heaven;
No-one as Father, nor anyone as Spouse,
No-one as Lord but he.
- - - - -
The cheerful face of my Beloved
Is my life in the world,
Farewell henceforth every idol,
Jesus my Spouse has taken my attention;
A Brother in a myriad of straits,
A Friend in a sea of grief he is;
My wounded soul seeks
None as a Physician but my God.
In the Lord I am trusting,
Who can do any harm to me?
Under his wings I shall shelter
In the misfortune of greatest force;
My soul has come to the city of refuge,
There henceforth shall I live;
My wounded soul seeks
None as a Physician but my God.
tr. 2014,23 Richard B Gillion
|
|