Weiniaid Seion, pam y cwynwch?
Deuwch, a chydseiniwch gân;
Crist eich Brenin, trwy farwolaeth,
Gafodd fuddugoliaeth lân:
Y mae angeu wedi methu
Cadw Iesu yn y bedd;
Adgyfododd mewn prydferthwch,
Gyda heddwch yn Ei wedd.
Gristion gwan! paham yr ofni?
Edrych tua'r nefol wlad;
Yno mae dy Frawd trugarog
Yn Eiriolwr gyda'r Tad:
Trwyddo cei,
er maint dy feiau,
Ryddid a gollyngdod llawn;
Digon iddo ddadleu drosot
Haeddiant Ei anfeidrol Iawn.
Roger Edwards 1811-86Tôn [8787D]: Buddugoliaeth (D Emlyn Evans 1843-1913) |
Servants of Zion, why do ye complain?
Come ye, and sound together a song;
Christ your King, through death,
Got a holy victory;
Death has failed
To keep Jesus in his grave;
He rose again in beauty,
With peace in his countenance.
Weak Christian, why dost thou fear?
Look towards the heavenly land;
There is thy merciful Brother
An intercessor with thy Father:
Through him thou mayst have,
despite the vastness of thy faults,
Freedom and full release;
Sufficient for him to plead for thee
The merit of his immeasurable Atonement.
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|