Tyred f'enaid ar i fyny

Tyred f'enaid ar i fyny,
  Allan o'r anialwch maith;
Hiraeth sy arnaf am gael gweled,
  Gwledydd hyfryd pen fy nhaith:
Blino teithio'r creigydd geirwon,
  Lle 'rwy'n wastad yn cael briw;
Ac fe'm clwyfid i farwolaeth,
  On' bai cariad rhad fy Nuw.

Lleoedd dyfnion sydd ar aswy,
  Lleoedd dyrys sydd ar dde;
Ac mae'n anhawdd cadw'r llwybr,
  Ag a deithiodd Brenin ne';
Rhag im' golli trwy ryw ryfyg,
  Neu anghredu, neu trwy flŷs,
Help, fy Nuw, luddedig enaid
  'Ddringo'r bryniau serth ar frŷs.

Dal fi i fyny, addfwyn Iesu,
  Arwain f'enaid yn dy law,
Nes im gyrraedd dros bob ofnau
  I'r ardaloedd hyfryd draw;
Ac os yno byth y deuaf,
  Dyna 'ngwaith o fewn y lle -
Chware ar y delyn euraid
  Am rinweddau'i gariad E'.
Chware :: Chwareu

William Williams 1717-91

Tonau [8787D]:
Alexander (John Roberts 1806-79)
Bodawen (alaw Gymreig)
Eifionydd (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Engedi (J E Jones 1856-1927)
Jersey (<1869)

gwelir: Rwy' fi'n dechreu teimlo eisoes

Come up, my soul,
  Out of the vast desert;
I have a longing to get to see
  The delightful lands of my journey's end:
Wearying of travelling the rough rocks,
  Where I am constantly getting bruised;
And I am wounded to death,
  Except for the free love of my God.

Deep places are on the left,
  And troublesome places are on the right;
And it is hard to keep the path,
  Which the King of heaven travelled;
Lest I be lost through some recklessness,
  Or being unbelieving, or through pleasure,
Help, my God, a corrupt soul
  To climb the steep hills quickly.

Keep me up, gentle Jesus,
  Lead my soul in thy hand,
Until I arrive across every fear
  To the delightful regions yonder;
And if ever I come there,
  This is my work within the place -
To play on the golden harp
  About the merits of His love.
::

tr. 2011 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~