Tyr'd, Iesu, help fi gario'r maes,
Fy unig noddfa yw Dy râs,
O! atal fy ngelynion câs;
D'ogoniant fydd fy nghân.
'Rwyf wedi pwyso oll yn nghyd,
I 'mado â theganau'r byd,
Fel peth annheilwng o fy mryd,
A pheth di-les, di-rym.
Fy iachawdwriaeth werthfawr, gu,
Sydd, Iesu, yn unig ynot Ti,
Ac ynot ymddiriedaf fi
Yn ngŵydd pob gelyn llym.
Fe'm galwodd â'i effeithiol râs,
Pan o'wn i'n gorwedd yn y maes,
Yn archolledig gan fy nghâs,
Heb neb yn trugarhau.
Er dyfned yw fy ffiaidd glwy',
Mi ŵn na âd
mo honwy mwy,
Tragwyddol gariad sydd yn fwy
Na phwysau maith fy mai.
Ac yn Ei freichiau mi ä 'mlaen
Trwy stormydd a thrwy fflamau tân;
Câf wel'd fy etifeddiaeth lân,
Dragwyddol maes o law.
William Williams 1717-91
Tonau [8886]: gwelir: Rhan II - Ni fedr tafod mewn yn modd |
Come, Jesus, help me carry the field,
My only refuge is Thy grace,
O, stop my detestable enemies;
Thy glory be my song.
I have leaned all altogether,
To renounce the trinkets of the world,
Like an unworthy thing from my mind,
And something unbeneficial and powerless.
My dear, precious salvation,
Is, Jesus, only in Thee,
And in thee I will trust
In the face of every keen enemy.
He called me with his effective grace,
When I was lying in the field,
Wounded by my foe,
Without anyone showing mercy.
Despite how deep is my terrible wound,
I know that thou wilt not let me
manifest it any more
Eternal love is greater
Than the vast weight of my fault.
And in His arms I will go forward
Through storms and through flames of fire;
I will get to see my pure, eternal
Inheritance soon.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|