|
1,2,3,4,(5,(6)); 1,2,3,4,6; 1,2,4,5; 1,3,4.
Tydi wyt deilwng o fy nghân,
Fy Nghrewr a fy Nuw;
Dy ddoniau o fy amgylch maent,
Bob mynyd 'rwyf yn byw.
Mi glywa'r haul, a'r lloer, a'r sêr,
Yn dadgan dwyfol glod;
Tywynu'n ddysglaer 'rwyt o hyd,
Trwy bobpeth sydd yn bod.
O! na foed tafod dan y rhod
Yn ddystaw am dy waith;
Minnau fynegaf hyd fy medd
Dy holl ddaioni maith.
Diolchaf am dy gariad cu,
Yn estyn hyd fy oes;
Diolchaf fwy am UN a fu
Yn gwaedu ar y groes.
Diolchaf am gysuron gwiw,
Wyf beunydd yn fwynhau;
Diolchaf fwy am Brynwr trist,
I mi gael llawenhau.
Mi a ddyrchafaf ar y llawr
Fy annheilyngaf gân;
Ond Ti gei glodydd llawr gwell
Nôl 'r elo'r byd ar dân.
- - - - -
Tydi sy deilwng oll o'm cân,
Fy Nghrewr mawr a'm Duw;
Dy ddoniau di o'm hamgylch maent,
Bob awr yr wyf yn byw.
Mi glywa'r haul, a'r lloer, a'r sêr,
Yn datgan dwyfol glod;
Tywynu'n ddisglair yr wyt ti,
Drwy bopeth sydd yn bod.
O! na foed tafod dan y rhod
Yn ddystaw am dy waith;
Minnau fynegaf hyd fy medd
Dy holl ddaioni maith.
Diolchaf am dy gariad cu,
Yn estyn hyd fy oes;
Diolchaf fwy am UN a fu
Yn gwaedu ar y groes.
Diolchaf am gysuron gwiw,
Wyf heddiw eu mwynhau;
Diolchaf fwy am ddoniau sy'n
Oes oesoedd i barhau.
oll o'm cân :: fyth o'm cân
Tonau [MC 8686]: |
Thou art worthy of my song,
My creator and my God;
Thy gifts around me are,
Every minute I am living.
I hear the sun, and the moon, and the stars,
Declaring divine praise;
Shining brightly thou art still,
Through everything which exists.
Let not a tongue under the sky be
Silent about thy work;
I will declare as far as my grave
Thy whole wide goodness.
I will give thanks for thy dear love
Reaching as far as my age;
I will give thanks more for ONE who was
Bleeding on the cross.
I will give thanks for worthy comforts,
Which I daily enjoy;
I will give thanks more for a sad Redeemer,
For me to have joy.
I will raise on the earth
My most unworthy song;
But Thou wilt get much better praises
After the world goes on fire.
- - - - -
Thou who art worthy of all my song,
My great creator and my God;
Thy gifts around me are,
Every hour I am living.
I hear the sun, and the moon, and the stars,
Declaring divine praise;
Shining brightly thou art,
Through everything which exists.
Let not a tongue under the sky be
Silent about thy work;
I will declare as far as my grave
Thy whole wide goodness.
I will give thanks for thy dear love
Reaching as far as my age;
I will give thanks more for ONE who was
Bleeding on the cross.
I will give thanks for worthy comforts,
Which today I enjoy;
I will give thanks more for gifts which,
Are to last forever and ever.
of all my song :: ever of my song tr. 2008 Richard B Gillion |
|