'Rwyf yma'n teithio yn y byd,
Mewn gwlad ddyeithr iawn o hyd:
Mae hiraeth ar fy enaid gwan,
Am dd'od o'r anial fyd i'r lan.
Mae llwybrau croesion lawer mil,
Yn agos iawn i'r llwybr cul;
'Rwy'n ofni'n fynych, ddydd a nos,
Fy mod i'n myn'd i'r llwybrau croes.
'Rwy'n mron ag ildio lawer gwaith,
Na ddof fi byth i ben fy nhaith;
Wrth wel'd yr holl anialwch mawr,
Sydd ar y ffordd 'rwy'n teithio'n awr.
O Iesu hawddgar, arwain fi,
Trwy waelod
glyn wylofain du;
A cherdd dy hunan o fy mla'n,
Nes delwyf mewn i'r Ganaan lān.
Hymnau a Salmau 1840
[Mesur: MH 8888] |
I am here travelling in the world,
All along a very strange land:
My weak soul is longing,
To come up from the desert world.
There are many thousands of contrary paths,
Very near to the narrow path;
I am often fearing, day and night,
That I am going to the contrary paths.
I have almost yielded many a time,
That I would never come to my destination;
On seeing all the great desert,
Which are on the way I am travelling now.
O beautiful Jesus, lead me,
Through the bottom of the
vale of black weeping;
And work thyself before me,
Until I come into the holy Canaan.
tr. 2017 Richard B Gillion
|
|