'Rwyf fel y gwyliwr ar y mur,
Yn dysgwyl, bob yr awr,
Am wel'd yn gwawrio Jubil fwyn
Fy muddygoliaeth fawr.
- - - - -
'Rwy' fel y gwyliwr ar y mur,
Yn dysgwyl gwel'd y wawr;
Dydd i gyhoeddi Jubil fwyn,
Fy ngwaredigaeth fawr.
Myfi ddysgwyliais amser maith,
Gyflawni geiriau'r nef;
O'r diwedd gwawriodd dedwydd ddydd,
Ei bur addewid Ef.
Edrychaf 'n awr i'r eilfyd maith,
Mewn rhyw dawelwch llawn;
O ben Calfaria
seiniaf gān,
O foreu hyd brydnawn.
Byth gorfoledda, f'enaid mwy,
Dy Briod yw dy Dduw;
Mwy ydyw rhinwedd marwol glwy',
Na phechod o bob rhyw.
William Williams 1717-91
Tonau [MC 8686]: gwelir: Agorwyd pyrth y nefoedd wiw Iesu difyrrwch f'enaid drud Fy enaid gorfoledda mwy O dyred Ysbryd sanctaidd pur |
I am like the watchman on the wall,
Waiting, every hour,
To see dawning the dear Jubilee
Of my great victory.
- - - - -
I am like the watchman on the wall,
Waiting to see the dawn;
A day to publish the dear Jubilee,
Of my great deliverance.
I have awaited for a long time,
The fulfilment of heaven's words;
At last has dawned the happy day,
Of His pure promise.
I will look now to the vast second world,
In some full quietness;
From the summit of Calvary
I will sound a song,
From morning until afternoon.
Forever rejoice, my soul henceforth,
Thy Spouse is thy God;
Greater is the merit of his mortal wound,
Than sin of every kind.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|