'Rwy'n gorwedd dan fy mhwn

1,(2,3),4.
'Rwy'n gorwedd dan fy mhwn,
  Yn isel wrth dy draed,
Yn adde' 'mod yn waelach dyn
  Nag eto un a gaed;
Rhyw ddyfnder sy'n fy nghlwy'
  Mwy nag a ddeall dyn,
Ac nid oes yn f'adnabod i
  Neb ond Tydi dy Hun.

O gwrando weddi'r tlawd, 
  On'd ffyddlon frawd wyt ti,
I'r rhai cystuddiol clwyfus gwan,
  Sy 'mofyn rhan o fry?
Ti wyddost ti fy mhla,
  Fy ngofid a fy mhwn,
Ac nid oes ond d'anfeidrol rym.
  All symmud dim o hwn.

Mi ro' fy meiau'n llawn,
  Yn uniawn o dy flaen,
О tafl hwy i fôr o anghof clir,
  Mewn anial dir yn lân:
Na safed y rhai hyn,
  Fyth yn fy erbyn draw,
Pan y cyhoeddir beiau cudd,
  Yn oleu ddydd a ddaw.

Ond boed maddeuant rhad,
  Y'ngwerthfawr waed yr Oen,
Yn destun moliant ym mhob man.
  I mi sy dan fy mhoen:
Yr anthem faith ei hyd,
  Fo i gyd am Galfari.
A'r Iachawdwriaeth fawr ei dawn,
  Ddaeth un prydnawn i mi.
ro' :: rof
meiau'n llawn :: meiau o'r bron
Yn uniawn :: Yn gyson
anghof clir :: anghof pur
Ond boed :: O! boed
Y'ngwerthfawr waed :: Yn hyfryd waed
Ddaeth un prydnawn :: Roedd un prydnawn :: Row'd un prydnawn

William Williams 1717-91

Tonau: [MBD 6686D]:
    Llanllyfni (John Jones 1796-1857)
    St Barnabas (J H Schein)

gwelir:
    Ar grasdir crindir cras
    Byth boed maddeuant rhad
    Mi gana' am waed yr Oen
    Na foed im' garu mwy
    O gwrando weddi'r tlawd
    Yr iachawdwriaeth rad

I am lying under my load,
  Lowly at thy feet,
Confessing that I am a worse man
  Than one yet was had;
Something deep is my wound
  More than man understands,
And there is nothing that knows me
  No-one but Thee Thyself.

O listen to the prayer of the poor,
   Art thou not a faithful brother,
 To those anguished, wounded, weak,
   Who are seeking a portion from above?
Thou knowest my disease,
  My trouble and my load,
And there is only thy immeasurable force,
  Which can remove any of this.

I will put my sins completely,
  Directly before thee,
O throw them into the see of pure forgetfulness, 
  In a desert land completely:
May these not stand
  Ever against me yonder,
When to be published are hidden sins,
  In the light of the day to come.

But let free forgiveness be,
  In the precious blood of the Lamb,
The theme of praise in every place,
  For me who am under my pain:
The anthem of great length,
  Be all about Calvary.
And the Salvation of great might,
  Which came one afternoon to me.
::
::
Directly :: Constantly
::
But let ... be :: O let ... be
In the precious blood :: In the delightful blood
Came one afternoon :: Was (there) one afternoon :: Was (there) one afternoon

tr. 2009,12 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~