Rhyw ddrycin gafodd
drwy ei ddydd,
Nes yn y pridd noswylio;
Ond deffry, a phan gwyd i'r làn,
Mor deg fydd tranoeth iddo!
Pan ddeffry'r tafod heddyw sydd
Yn nghudd dan bwys y graian;
Fe dry ei anthem floesg
yn floedd,
Ar ben mynyddoedd Canaan.
Er gwneyd ei wely yn y gro
Caiff ddeffro i deyrnasu;
Ac O! pan ddelo'i draed yn rhydd,
Mor debyg fydd i'r Iesu.
Ei orchwyl yma yn y glỳn
Oedd marw beunydd, beunydd,
Ond fry yn llon gerbron ei Dduw
Ni bydd ond byw'n dragywydd.
Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) 1795-1855
[Mesur: MS 8787] gwelir: Gwyn fyd y gwas fu'n ffyddlon fyw O fraint y [dyn/gwr] sy'n duwiol fyw |
Some foul weather he got
throughout his day,
Until in the soil spending the night;
But he shall awaken, and when he rises up,
How fair shall be the morrow for him!
When the tongue wakes, that today is
Hidden by the weight of the gravel,
The faltering anthem shall
turn into a shout,
On the summit of the mountains of Canaan.
Although making his bed in the shingle
He will get to awaken to reign;
And O, when his feet come free,
How similar to Jesus he shall be.
His task here in the vale
Was to die daily, daily,
But up cheerfully before his God
He will only be living eternally.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|