Rhyw ŵr - rhyfeddol ŵr yw Ef -
Sydd imi'n lloches gadarn gref;
Fel uchel graig fy nghysgod fydd,
Rhag marwol wres y poethlyd ddydd.
Yr hynod Graig, ein Iesu cu,
Sy'n llawer uwch na'r nefoedd fry;
O dano Ef y llecha'i'n glyd,
Ym mhob rhyw 'stormydd yn y byd.
Taraw'd y Graig - mae ffrydiau hon
Yn oeri'r llosgfa dan fy mron;
Taraw'd y Graig - a'i dyfroedd pur
Yw'm cysur yn yr anial dir.
Yn holltau'r Graig fy nhrigfa fydd,
Trwy ryfedd faith dragwyddol ddydd;
Cāf yma hyfryd
wedd fy Nuw,
Dysgleiriad ei berffeithiau gwiw.
Taraw'd :: Trawyd :: Fe d'raw'd Yw'm cysur :: Yw 'nghysur Trwy :: Drwy
David Charles 1762-1834
Tonau [MH 8888]: |
Some man - a wonderful man is He -
Is to be a firm, strong refuge;
Like a high rock shadowing me he will be,
Against the mortal heat of the hot day.
The remarkable Rock, our dear Jesus,
Is much higher that the heavens above;
Under Him I will hide securely,
In all kinds of storm in the world.
The Rock was struck - these streams are
Cooling the furnace under my breast;
The Rock was struck - and his pure waters
Are my comfort in the desert land.
In the clefts of the Rock my dwelling will be,
Through the wonderful extent of an eternal day;
I may get here the delightful
countenance of my God.
The radiance of his worthy perfections.
:: :: :: :: tr. 2015 Richard B Gillion |
|