Rhyfedd wyt ac anchwiliadwy
Yn dy Hanfod, Arglwydd mawr;
Mae preswylwyr gwlad gogoniant,
Oll o'th flaen yn plygu lawr;
Mewn modd gwresog, &c.
Unant i'th glodfori byth.
Deffro feddwl teulu'r ddaear,
O! cynhyrfa bob dyn byw;
I ystyried dy brydferthwch -
Tegwch digyffelyb yw;
Dy gymdeithas, &c.
Byth ddedwydda feddwl pur.
William Williams 1717-91Casgliad E Griffiths 1855 [Mesur: 878747] |
Wonderful thou art and unsearchable
In thy Being, great Lord;
The residents of the land of glory are
All before thee bowing down;
In a warm manner, &c.
They unite to extol thee forever.
Awake, thoughts of the family of the earth,
O arouse every living man!
To consider thy beauty -
An incomparable fairness it is;
Thy fellowship, &c.
Forever makes happy pure thoughts.
tr. 2017 Richard B Gillion
|
|