1 Rhois weddi ar yr Arglwydd nef;
Yn llym fy llef ymbiliais:
2 A'm holl fyfyrdod ger ei fron
O'm calon y tywelltais.
3 Ond pan fynegais it' fy nghur,
A'm dolur o'm meddyliau;
Da gwyddit ti bob ffordd, a'r man,
Y rhoisan' i mi faglau.
4 O'r tu deau nid oedd i' neb,
Trown f'wyneb, a'm hadwaenai:
Na nawdd, na neb, o du'n y byd,
Fy mywyd a 'mgeleddai.
5 Arnad llefais, wrthyt d'wedais,
Duw, ti a ydwyd union:
Fy nghwbl obaith wyt ti yn wir,
A'm rhan yn nhir y bywion.
6 O ystyr, Arglwydd, faint fy nghri;
Wyf mewn trueni digllon:
Rhag fy erlidwŷr gwared fi;
Mae'r rheini yn rhŷ gryfion.
7 O garchar caeth, fy enaid tynn,
Dy enw am hyn a folaf:
Pan weler dy fod ar fy rhan,
Y cyfion twysgan attaf.
Edmwnd Prys 1544-1623
Mesur [MS 8787] Tôn [MSD 8787D]: Jewin Street <1835 |
1 I gave my prayer to the Lord of heaven;
With my sharp cry I pleaded:
2 And my whole meditation before him
From my heart I poured.
3 But when I expressed to thee my ache,
And my ailment from my thoughts;
Well wouldst thou know every way, and the place,
They set snares for me.
4 From the right side I had no-one,
I would turn my face, who would know me:
Nor refuge, nor anyone, beside in the world,
Who would succour my life.
5 To thee I cried, to thee I said,
God, thou who art upright:
My whole hope art thou truly,
And my portion in the land of the living.
6 O consider, Lord, the extent of my cry;
I am in bitter misery:
From my pursuers deliver me;
They are too strong.
7 From a prison of captivity, draw my soul,
Thy name for this I will praise:
When it is seen thou art on my side,
The righteous will gather to me.
tr. 2012 Richard B Gillion
|
|