Rho i mi yfed, 'r wy'n sychedig,
Ddŵr y ffynnon loyw lawn
Darddodd allan yn dy ystlys
Ar Galfaria un prynhawn:
Gwaed fy Nuw'n unig yw,
Ylch fy meiau dua'u rhyw.
Edrych arnaf mewn tangefedd -
Dy dangnefedd hyfryd, mae
Fel rhyw afon fawr lifeiriol,
Yn ddiddiwedd yn parhau:
Môr o hedd yw dy wedd
Sy'n goleuo'r byd
a'r bedd.
Maddau fel y cyfeiliornais,
Weithiau i'r dwyrain,
weithiau i'r de;
Maddau ddrachwant cas fy nghalon
I ymado i maes o dre';
Dwg yn ôl f'ysbryd ffôl,
I'th fwyn dirion dawel gôl.
William Williams 1717-91
Tonau [8787337]: |
Give me to drink, I am thirsty,
Water from the full, shining spring
That sprang out from thy side
On Calvary one afternoon:
My God's blood alone it is,
That washes my faults of blackest kind.
Look upon me in peace -
Thy delightful peace, is
Like a great flowing river,
Endlessly to endure:
A sea of peace is thy countenance
Which is lighting the world
and the grave.
Forgive as I wandered,
Sometimes to the east,
sometimes to the south;
Forgive the hated lust of my heart
To depart out of home;
Drawn my foolish spirit back,
To thy gentle, tender, quiet bosom.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|